Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y diddechreuad. Nis gwn pa fodd i roddi cyfrif am hyn. Onid ydyw y côf yn croniclo dechreuad pethau yn y meddwl? A raid i ddechreuad peth fod wedi cymeryd lle am ryw gyhyd o amser cyn y gall y cof dderbyn yr argraff o hono? Neu, a ydyw dechreuad peth yn y meddwl a'r côf am dano yn gydamserol? A ydyw pob syniad y mae dyn yn dyfod yn feddiannol arno eisoes yn yr enaid er pan grëwyd ef, ond ei fod mewn ystâd o gysgadrwydd nes y deffroir ef gan amgylchiadau, neu ynte ai rhyw gyfaddasder sydd yn yr enaid i dderbyn argraffiadau, a'r argraffiadau hyny wrth eu mynychu yn myned yn ddyfnach bob tro nes o'r diwedd ffurfio yn syniadau ?

Tua'r adeg yr wyf yn ceisio myned yn ol ati, yr wyf yn meddwl mai o ddeutu chwe' mlwydd oed oeddwn, a bod Bob fy mrawd, oddeutu deunaw oed. Yr oedd Bob, fel y tybiwn i, yn ddyn mawr cryf; a digon o brawf o hyny i mi oedd ei fod yn gallu fy nghario ar ei gefn yn ddidrafferth. Gweithiai yn y glo, ac nis edmygodd neb erioed ei frawd yn fwy nag a wnawn i Bob, pan ddeuai adref yn ei glocsiau, â'i lamp yn ei law, a'i wyneb càn ddued a'r simdde. Cyn y pryd hwn, yr wyf yn tybied nad oeddwn wedi meddwl o ba le yr oedd fy mam a Bob a minnau yn cael ein cynnaliaeth. Pa fodd bynag, yn y cyfnod hwn, neu ynte yn fuan ar ol hyn, daethum i ddeall nad oedd dim o bethau da y byd hwn i'w cael heb brêsgwirionedd yr wyf, er fy ngofid, wedi ei brofi filoedd o weithiau ar ol hyny. Dichon mai y moddion trwy ba un y daethum i ddeall hyn oedd fy ngwaith yn gofyn yn feunyddiol i fy mam am y peth yma a'r peth arall, a'i gwaith hithau yn ateb nad oedd ganddi brês i'w geisio. Yr wyf yn cofio y byddai rhyw ddyddordeb mawr i mi ynglŷn â'r adeg y byddai Bob yn dwyn ei gyflog gartref. Eisteddem ein tri o gylch y tân tra y gwaghai Bob ei boced i ffedog fy mam. Cyfrifai fy mam y cyflog lawer gwaith drosodd. Ystyriwn fod swm yr arian yn fawr iawn, a methwn a deall yn glir pa fodd yr oedd fy mam yn dyweyd nad oedd ganddi brês, a hithau yn derbyn cymaint gan Bob. Sylwn y byddai fy mam wrth gyfrif yr arian ar rai adegau yn edrych yn llawen, ac ar adegau eraill yn brudd iawn; a phob amser ar ol eu cyfrif edrychai yn synfyfyriol. Dychymygwn mai synu y byddai hi fod ganddi gymaint o arian. Druan oeddwn! Beth pe buaswn yn gwybod mai dyfeisio a phensynu y byddai hi pa fodd