Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w rhoi allan, pa fodd i alla talu i bawb gyda'r ychydig sylltau oeddynt yn ei ffedog! Wrth i mi dalla fy meddwl yn ol, a choflo pa faint oedd swm cyflog Bob—y fath chancellor of the exchequer raid fod fy hen fam! Yr wyf yn cofio yn dda y byddai ty mam a Bob, ar ol cyfrif yr arian, yn siarad cryn lawer yn gyfrinachol, ac mewn iaith nad oeddwn i yn ei deall, oddigerth y geiriau "rhent," a "shop." Rywbryd yn y cyfnod hwn daethum i edrych yn mlaen at ddiwrnod y cyflog gydag awch, oblegid byddai fy mam, ar ol cael y prês, yn myned i'r shop i nôl bwyd; ac am un diwrnod, fodd bynag, byddai genym gyflawnder o ymborth. Can lleied o bobl, fel mae'r goreu, sydd wedi profi y dirfawr bleser o gael cyflawnder o ymborth! Yr wyf yn meddwl nad ŵyr neb am y pleser hwnw ond y rhai, fel fy hunan, sydd yn gwybod beth ydyw bod yn brin o luniaeth. Prin a ddywedafa? ie, bod heb ddim I ond bydd raid i mi gyfeirio at hyny eto.

Fel yr awgrymais yn barod, yr oedd Wil Bryan a minnau yn gyfeillion mawr, ac nis gallaf beidio cysylltu gydag ef greadigaeth neu gynhyrfiad meddyliau a syniadau yn fy enaid. Mae y côf yn fyw ynof fel y byddwn yn cenfigenu at Wil Bryan. Cadwai ei dad shop fawr, fel y tybiwn i, yn yr hon yr oedd cyflawnder o bobpeth. Yr oedd Wil yn cael tatws a chig i'w ginio bob dydd, a minnau yn cael browes. Yr oedd Wil yn cael dillad newydd yn fynych, tra mai hen ddillad Bob fy mhrawd, wedi ei hailwneyd gan fy mam, a gawn i fyth a hefyd. Yr oedd Wil yn cael ceiniog bob dydd Sadwrn, tra nad oeddwn i byth yn gweled un ond pan waghâi Bob ai boced i ffedog fy mam. Ond yr hyn a barai i mi edrych ar Wil fel y bachgen dedwyddaf ar y ddaear oedd, y ffaith fod ganddo ful bach byw! Yr adeg hono nid oeddwn yn gwybod am ddim yn y byd mawr llydan y buaswn yn ei ddymuno yn fwy na chael mul bach yr un fath ag an Wil Bryan. Nid myfi oedd yr unig un a edmygai sefyllfa hapus Wil: yr oedd yn deimlad cyffredinol ymhlith fy nghyfoedion. Ac nid oedd Wil ei hun yn anymwybodol o'i uchafiaeth arnom oll; oblegid os byddai rhai o honom wedi troseddu yn ei erbyn, y gosbedigaeth drymaf oedd yn bosibl ei gweinyddu a fyddai, nad oeddem i gael dyfod yn agos at y mul bach, yr hyn fel rheol a'n dygai yn union deg yn edifeiriol wrth ei draed. Mewn