Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mam. Teimlwn yn ddig enbyd wrthi am rwystro Bob ei fwrw ef allan. Gofynodd y "Gwyddel," fel y galwn ef, am ymborth; a synais weled fy mam yn gosod lluniaeth o'i flaen. Bwytäodd swm digydwybod, a thybiwn unwaith nad oedd yn meddwl rhoi heibio. Gwarafunwn bob tamaid iddo, a gwyddwn fod Bob o'r un meddwl; oblegid eisteddwn ar ei lin, a theimlwn ei liniau yn crynu yn barhaus gan ddigofaint.

Wedi i'r "Gwyddel" orphen bwyta, closiodd at y tân yn hamddenol, fel pe buasai ar fedr aros trwy y nos. Erfyniodd fy mam arno wed'yn fyned ymaith; ond nid äi efe heb gael arian. Er fy mawr syndod, gwelwn fy mam yn estyn swm o arian iddo. Parodd hyn i Bob fyned i dymher ddrwg; a chof genyf ei fod yn dyweyd yn ddigofus fod fy mam wedi ynfydu, ac nad äi efe byth i'r glo i chwysu a baeddu os oedd am roddi ei ennillion caled i scamp meddw lladronllyd. Teimlwn innau yn ddigllawn fod fy mam wedi rhoddi i'r "Gwyddel" fwy o arian nag a fuasai yn angenrheidiol i brynu mul bach byw yr un fath ag un Wil Bryan. Ar yr un pryd, er mor ieuanc oeddwn, cydymdeimlwn yn fawr â fy mam; oblegid yr oedd argraff ar fy meddwl fod gan y dyeithryn ryw ddylanwad dirgelaidd arni, ac nad oedd ganddi mo'r help am yr hyn a wnelai. Nid oedd tymher ddrwg Bob yn effeithio dim ar y "Gwyddel." Wedi iddo gael yr arian, ymddangosai yn fwy penderfynol i aros. Taniodd ei getyn, a dechreuodd ddattod careïau ei esgidiau.

Wrth weled hyn, collodd Bob bob amynedd; neidiodd ar ei draed, agorodd y drws yn llydan agored, gafaelodd yn ngwár y "Gwyddel,' a thaflodd ef i'r heol fel burgyn, a bariodd y drws. Oddeutu chwarter mynyd a gymerodd i Bob i fyned trwy y gwaith hwn; a churais innau fy nwylaw mewn llawenydd, nes y gwelais fod fy mam yn llesmeirio. Tybiais ei bod yn marw, ac yr oeddwn bron a gwallgofi gan ofid. Pa fodd bynag, wedi i Bob gymhwyso dwfr oer at ei hwyneb, dadebrodd a dechreuodd wylo; a chydunwyd â hi yn hyn o orchwyl gan Bob a minnau am spel. Wedi ymdawelu, ymgomiodd fy mam â Bob yn gyfrinachol; ond deallwn yn burion mai y "Gwyddel" oedd y testyn, yr hwn a alwent "y fo:" Er holi ac ymofyn yn daer gyda fy mam a Bob, methais yn hollol gael gwybod pwy oedd y dyeithryn.