Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gallu cynnorthwyo Mr. Brown i roi ysbrydion i lawr, nad oedd efe yn ddyeithr i'r gwaith o'u cyfodi hefyd. Ond rheswm penaf fy mam dros gredu mai dyn diras oedd Mr. Smith ydoedd y ffaith ei fod yn gwisgo moustaches—Nid allai neb ei hargyhoeddi hi, meddai, fod undyn ag oedd wedi profi pethau mawr crefydd yn gallu gadael ei farf ar ei wefus uchaf. Ni welodd hi neb ag oedd yn deilwng o'r enw cristion yn gwneyd felly. Beth a gymerasai Mr. Elias a Mr. Rees a gwisgo moustaches? Yr oedd tipyn o locsen wrth y glust yn beth hollol wahanol. Fel y dywedais, yr oedd y pethau hyn, hyd yn nôd pe buasai fy mam yn gallu fforddio, yn rhwystr anorfod ar fy ffordd i gael myned i'r ysgol at Mr. Smith. Heblaw hyny, nid oedd fy mam yn credu mewn dysgeidiaeth uchel. Clywais hi yn dyweyd ambell dro na welodd hi erioed ddaioni o roi dysg uchel i blant, fod llawer o ddysg wedi arwain ambell un i'r crogbren. "Am blant tlodion," meddai, "os gallant ddarllen eu Bibl, a gwybod y ffordd i'r bywyd, mae hyny yn llawn ddigon iddynt.

Yr ysgol arall a gedwid gan un o'r enw Robert Davies, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, Robyn y Sowldiwr. Gŵr cydnerth a chnawdol ydoedd ef, ac mewn gwth o oedran. Treuliasai flodau ei ddyddiau yn myddin Prydain Fawr, ymha sefyllfa yr hynododd ei hun fel milwr dewr a phybyr. Pan ddychwelodd yr hen sowldiwr i'w dref enedigol, yr oedd efe yn ddiffygiol o'i goes ddehau. yr hon a adawsai ar ei ol yn Belgium, fel arwydd o'i zel a'i ffyddlondeb dros ei wlad pan oedd yn ymladd yn erbyn Boni. Cyflenwasai Robert y diffyg hwn â choes bren o ddefnydd tramor, ac o'i wneuthuriad ef ei hun, a ffurel haiarn ar ei blaen. Ar ei ymadawiad o'r fyddin, teimlodd y llywodraeth oedd mewn awdurdod ar y pryd rwymedigaeth i roddi iddo y pension o chwe cheiniog yn y dydd am y gweddill o'i oes, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr fel milwr, ac fel cais sylweddol i wneyd i fyny am y golled o'i goes; o herwydd paham yr arferai Robert alw y goes bren "yr hen goes chwech." Am rai wythnosau wedi i Robert ddychwelyd o'r fyddin, gelwid arno yn fynych i swpera gyda ei hen gyfeillion, er mwyn iddynt ei glywed yn adrodd hanes ei frwydrau, a'r hyn a welodd ac a glywodd. Pa fodd bynag, daeth Robert yn fuan i ben ei denyn, ac aeth ei hanes, o dipyn i beth, yn ddiflas cyn i'w ystymog golli ei harchwaeth; a'r