XII. STORI TAID
DYN rhyfedd ydi taid. Hen ddyn bychan, cam, ydio, yn deud pethe smala. Mae o'n gneud yr hyn mae pobol yn ei alw'n ramblo, medde mam. Dyna sut mae o'n siarad mor ddigri. Rydwi'n cofio imi ofyn i nhad un nosweth, pam yr oedd nhaid mor gam, ac yn siarad mor rhyfedd, a dyna nhad yn edrych yn bur syn, ac yn deud, "Brwydre bywyd, machgen i, brwydre bywyd," ac mi dawodd. Felly rydech chi'n gweld mai hen sowldiwr oedd taid ers talwm.
Mae o'n dwad i'n tŷ ni ddwywaith yn y flwyddyn —nosweth talu rhent, a noson Dolig. Mae ganddon ni damed go lew i'w dderbyn o y ddwy nosweth ene, wyddoch. Ar nosweth talu rhent, rydwi wedi bod yn y Plas yn cael llond stên o dripin ar ôl y cinio rhent, ac mi fydd yn botes arnon ni y nosweth honno, ac ar hyd yr wsnos wedyn; ac ar gyfer pob Dolig mae mam yn lladd cyw. A dyna sy'n rhyfedd, bob tro y daw taid acw, yr un stori sydd ganddo fo. Mi ofynnes i nhad hefyd pam oedd o'n deud yr un stori o hyd, a'r cwbwl ges i y tro hwnnw oedd nhad yn edrych yn syn ac yn deud, "Stori fawr y frwydyr ydi hi, machgen i, stori fawr y frwydyr," a dyna daw arna i.
Mae ene ryw hen sowldiwr arall yn y wlad yma, a phob tro y gwêl o griw ohonon ni'r bechgyn, mae o'n mynd dros y stori sut y collodd o ei goes yn rhywle yn Affrica—run stori gewch chi wastad ganddo, a decyn i fod pob hen sowldiwr yr un fath. Fedra i yn fy myw weld sut bod stori taid yn stori hen sowldiwr chwaith, ond rhaid imi ei deud hi