wrthach chi. Mae'r Dolig yn ymyl, a dyna sydd wedi gneud imi feddwl amdani, o achos rydw i'n siŵr o'i chlywed eto yn y man; yr ydw i'n ei medru ddigon da i'w sgwennu i lawr heddiw o ran hynny.
Y peth cynta wneiff taid wastad wedi dwad i'r tŷ ydi edrych arna i'n rhyfedd, a gofyn cwestiyne gwirion imi, ac rydw i wedi dysgu mai'r peth gore ydi peidio â thrio eu hateb nhw, a rhoi ar ddallt iddo fod nhw'n gwestiyne caled, ac rydwi'n siŵr o ddarn tair ganddo wedyn.
"Wel, braddug," medde taid wrtha i wastad pan ddaw o i mewn, "wyt ti'n gwybod be ydi fylgar ffracsion?" Mi sgydwa inne mhen. "Wyddost ti," medde fo, "bedi antimacasar?" Mi sgydwa inne mhen wedyn. Mi drychith taid arna i am funud, ac yna dechre chwerthin dan chwilio'i boced. Yn y man mi ddaw darn tair allan o ganol lot o fatshsis a bytyme, a taid yn ei estyn o imi, gan ddeud, "Hwde, cymer hwn, a bydd yn fachgen da"; ac yna mi setlith ei hun i lawr.
Wedi aros yn ddistaw am funud, mae o'n edrych o'i gwmpas nes gweld y dorth ar y bwrdd. Cyn gynted ag y gwêl o hi, mae o'n deffro drwyddo, ac yn poeri i'r tân, ac yn dechre ar ei stori. "Mae o'n taro i'm meddwl i, Tomos," medde fo wrth nhad, "wrth weld y dorth ene, am yr hen gledi ers talwm; ac mae ene un stori yn dwad yn fyw iawn i ngho i rwan. 'Tomos,' medde dy fam un nosweth, dipyn cyn iddi hi farw" (Tomos, fel y gwyddoch chi ydi enw taid hefyd), wyddost ti be ddois i ar ei draws o ddoe, yr hen lyfr siop,' medde hi. Gad imi weld o, Sian,' medde finne. 'Aros tan heno,' medde hi; a'r nosweth honno, wedi inni roi bwyd i'r gwartheg a'r moch, ac i'r ieir fynd i glwydo, dyma dy fam a fi yn