cau'r drws ar y byd oddi allan, ac yn dechre rymejio'r hen lyfr, ac er y dydd yr yden ni wedi priodi, chawson ni rioed fwy o bleser na'r nosweth honno. Ar ben y llyfr, y peth cynta ar tudalen 1 oedd:
'Tomos Jones, Bot. of Edward Parry, Grocer and Provision Dealer.'
Yr wyt ti'n gwybod pwy oedd Edward Parry, Tomos?" (a dyma nhad yn nodio, fel pe na bae o rioed wedi clywed y stori o'r blaen). "Dyn mawr oedd Edward Parry, mewn byd ac eglwys, ac yr oedd ganddo lawer iawn o enwe. Ei enw ar lyfr y siop oedd, 'Bot. of Edward Parry;' ei enw yn y cinio clwb oedd, Edward Parry, Ysgweiar;' ei enw yn y Cwarfod Chwarter oedd,' Mistar Syrcit Stiward.' Mewn gair, wyddost, fo oedd y Cwarfod Chwarter, a doedd pawb arall a ddeuai yno yn ddim ond fel bytyme ei gôt o—roedd o yn eu cau a'u hagor nhw fel y mynne fo; ac ambell un, wyddost, yn ddim ond fel botwm ei drowsus o—roedd o'n ei gadw o'r golwg heblaw ei fod dan ei fysedd. Ei enw yn y sêt fawr ar nos Sul, Tomos, oedd Mistar Parry'r Siop'; yn y seiat,' y brawd Edward Parry'; ac yn yr awyr agored, 'Yr Hen Gribin.'
"Y frawddeg nesa y disgynnodd ein llygid ni arni, Tomos, oedd,
"Asiffeta—half owns, 2 pence."
Wrth edrych ar y geirie ene, dyna lygid dy fam yn dechre llenwi, a minne, er mwyn ceisio gorchfygu rhyw grygni sydyn ddaeth ata i, yn treio barddoni tipyn. Oes y ffitie am asiffeta,' medde fi; 'ydi hwnene'n farddoniaeth dywed, Siân?' Chlywodd dy fam ddim, beth bynnag, a dyma hi'n deud,