"Roedden ni wedi meddwl yn siŵr mai colli Tomos fuasen ni'r adeg honno, on 'doedden ni, Tomos, pan oedd o'n cael y ffitie hynny?' A dyma dy hen fam yn rhoi ei dwy fraich am fy ngwddw i, a rhoi clamp o gusan imi, nes oedd gwallt gwyn yn plethu am wallt gwyn, a'r ddwy ên yn cyffwrdd ei gilydd o flaen y gwefuse." (Mae taid yn crygu yn y fan yma, nhad yn sychu ei lygad, a minne'n cymryd arna gysgu.)
"Cofio roedd hi," medde taid wedyn, "am y frwydyr fawr, pan oedd bywyd Tomos bach yn y glorian, a doedd ei chusan pan oedd hi'n ferch ifanc yn ddim wrth honno, machgen i; roedd hi'n aeddfed, wyddost, fel afal yn nechre'r gaea." (Rydwi'n cofio'r darn yma o'r stori'n iawn, am fy mod i'n leicio fale). "A waeth imi orffen y stori iti,' medde taid, "pwy ddaeth acw ymhen yr wsnos ond Llew y Cwm. 'Jyst y dyn oeddwn i eisio weld,' medde fi,'" medde taid wedyn, "Ydi hon yn farddoniaeth, Llew?oes y ffitie am asiffeta.' A dyma Llew, iti, yn eistedd ar y setl, ac yn dechre cyfri ei fysedd; a'u cyfri nhw y bu o am chwarter awr helaeth, nes collodd dy fam bob amynedd. 'Llew druan,' medde hi, i be yr ydech chi'n cyfri cymint ar y'ch bysedd, fe ŵyr pawb mai naw a darn sydd genoch chi.' 'Ia,' medde Llew, mewn llais fel injian ddyrnu, neu i fod yn fwy manwl, dau fawd, saith bys a hanner,' a dyna daw ar dy fam. Tomos Jones,' medde fo cyn bo hir iawn, mae'r llinell dan sylw yn o agos yn farddoniaeth, ond ddeudodd o ddim pa mor agos. Pe buaswn i'n cael fy urddo," medde taid dan chwerthin, ac mae o bob amser yn disgwyl i bawb chwerthin yn y fan yma, ac yn y fan yma rydw inne'n deffro am funud i'w helpio