nhw,—"pe buaswn i'n cael fy urddo," medde fo, "wyddost ti be ddewiswn i fel enw,Bardd o fewn ychydig '."
"Mi aethon dros lawer hanes diddorol wrth ddarllen y llyfr hwnnw, Tomos," medde taid. "Fedri di, machgen i, byth ddirnad teimlade hen ŵr a hen wraig pan fydd sŵn brwydyr y bore wedi troi'n fiwsig ym mhellter min yr hwyr, nes gneud iddyn nhw feddwl mai miwsig oedd y cwbwl, ond rhaid imi ddeud wrthat ti dipyn am y llyfr. Mi ddaethom at frawddeg yn y man oedd fel mynydd uchel—fedren ni mo'i dringo hi; y cwbwl fedren ni neud oedd troi a throsi o gwmpas ei gwaelod hi, heb ddeud dim. Toc dyma dy fam yn deud yn ddistaw. 'Tomos, dyma'r adeg y collson ni Willie bach. Tair oed oedd o, yntê Tomos pan aeth o, ac y mae rhyw hiraeth rhyfedd wedi codi arna i amdano.' Mi gododd darlun y munud hwnnw o flaen fy llygad i, Tomos," medde taid (nhad oedd y Tomos yma, wyddoch, a taid oedd y Tomos o'r blaen), "gwelwn dy fam yn sefyll wrth wely Willie bach. Yr adeg y daeth yr inffliwensa fel chwiw i'r wlad oedd hi, a minne'n mynd allan berfeddion o'r nos i gnocio wrth ddrws y siop am dipyn o stwff, a Bot. of Edward Parry' yn codi i'r ffenest i ofyn oedd gen i bres i dalu amdano, a phan welodd o nad oedd, grwgnach ddaru o, Tomos. Ond wedi'r cwbwl, hwyrach na ddylen ni ddim lladd gormod arno fo—roedd o'n weddïwr ffyrst clas; roedd ene dinc neisia glywist ti rioed yn ei lais pan fydde fo'n deud ar ei weddi, 'O Arglwydd, cofia di y tlawd a'r anghenus.' Ond colli Willie bach ddaru ni, fel y gwyddost ti; roedd o wedi mynd cyn i'r doctor gyrraedd. Be oedd y