frawddeg gododd yr holl atgofion yma i orchfygu dy fam a fi, tybed? Dyma hi Tomos:
'Tintiriwbob, 2 owns, 6 pence'
Roedd rhwfun wedi deud mai peth da at yr inffliwensa oedd tintiriwbob.
"O dipyn i beth," medde taid, "dyma ni at dudalen arall, a'n gwnaeth ni i grynu i'n dau. Tomi," medde fo wrtha i, "deffra, dyma iti sym," a dyma finne'n mynd reit fywiog. Yr ydw i'n bywiogi bob amser yn y darn yma o'r stori. "Dyma ydi'r sym," medde taid, "dyma wnaeth inni grynu, ar y llyfr:
| Forward | £3 10 0 |
| Cash | £0 5 0 |
| Balans | £3 5 0 |
ac o dan honene, Tomos, roedd y geirie:
'Bytar,—1 pound, 2 shillings'
"Adeg ofnadwy," medde fo, "oedd honno—adeg y bara mall, a'r menyn dau swllt y pwys[1]—adeg pan weithies i'n galed yn y chwarel am fis, a dwad adre efo saith swllt i'w rhoi yn ffedog dy fam. Yn wir, fedrwn i yn fy myw eu rhoi nhw am beth, roedd gen i gwilydd, ac mi roeddwn yn rhyw ogordroi o gwmpas y tŷ a'r buarth, ond o'r diwedd dyma fi'n rhuthro i mewn yn sydyn. Siân,' medde fi, dyma nhw, gan eu taflu nhw i'w ffedog hi. Fedrwn i ddim casglu fy llais at ei gilydd i ddeud faint oedd yno, ac
- ↑ "Yr oedd dau swllt y pwys yn anhygoel pan adroddai taid y stori, fel amryw bethau eraill yn y storïau hyn i ni heddiw.