Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi eis allan. Pan ddois i mewn, roedd dy fam yn eistedd ar y setl, a bleinds gwynion y ffenest yn hongian y tu ôl iddi. A fedri di nghoelio i, Tomos, pan ddeuda i mai prin y medrwn i dynnu'r llinell derfyn rhwng y bleinds a gwyneb dy fam? Mi gofia byth y nos Sadwrn hwnnw, pan eis i'r siop i dalu pumswllt, a thithe yn fy llaw i, Tomos, a dy wyneb crwn di cyn hired â chwisl dun yr adeg honno, ac mor fain â hi bob tipyn. Tomos Jones,' medde Edward Parry, pan eis i mewn, bedi oed Tomos yma?' Saith, Mistar Parry,' medde fi. Fedrwch chi mo'i anfon o i wasanaeth?' medde fo, dydi coron ddim ffit i dalu, wyddoch; mae yma ddigon o ffarmwrs, ac mi helpie dipyn arnoch chi.' Mi aeth hynny at fy nghalon i, Tomos, nes imi siglo drwydda," medde taid. "Mistar Parry,' medde fi," medde taid, ""chewch chi byth ddeud hynene eto," ac allan â fi yn syth i dŷ'r hen Ddaniel Edwards i ddeud fy nghŵyn. Yr oedd Daniel yn cael y gair fod ganddo hen hosan go dda, wyddost, a dyma fo'n deud, Tomos Jones, os rhoswch chi tan y Llun, mi gaf fynd i'r banc, ac mi gewch fenthyg arian i dalu.' Wrth fynd adre mi sylwes fod gan Daniel fochyn braf yn y cyt. Nos Lun, dyma fo acw efo'r arian o'r banc. Ddydd Mawrth roeddwn i'n pasio tŷ Daniel wedyn, Tomos—roedd y cyt mochyn yn wag ddydd Mawrth. Do, bu Daniel Edwards yn y banc—yr unig fanc oedd ganddo—yn nôl arian i helpu ei gyfaill Tomos Jones.

"Adeg ryfedd oedd yr adeg honno, Tomos," medde taid. "Bob bore, tyrci pei oedd i frecwast; a'r pethe amlyca mewn tyrci pei ydi dŵr a duwchdyna'r crystie felly wedi mynd i frecwast. I ginio caem frywes, neu fara llaeth, efo'r mwydion. I de,