brechdan doddion, diferion gweddill cinio rhent y Plas. Ac i swper, martsio rownd y bwrdd i weld be oedd i frecwast bore drannoeth.
"Rydwi'n cofio'r nos Sul ar ôl helynt y mochyn, fel doe, Tomos. Mistar Jones y gwnidog oedd yn pregethu, ac mi roedd pawb yn ffond o Mistar Jones, er nad oedd o fawr o bregethwr. Nos Sul cyn y Cwarfod Chwarter oedd hi, a dim gobaith am ei gyflog o. Wedi i Mistar Jones orffen pregethu, dyma Mistar Parry y siop ar ei draed, ac yn dechre pregethu hen bregeth yr arian, fel pe buase gan bawb gelc o arian daear, ac yr oedd pawb yn styfnigo dan ei weinidogaeth o. Doedd arian y chwarter ddim wedi bod yn llawn ers chwarteri bellach. Wedi iddo fo orffen cledu pawb, dyna Mistar Jones y gwnidog ar ei draed. Doedd ei eiriau o ddim yn byhafio am funud—ddeuen nhw ddim allan: ond toc, medde fo, Bobol, rydwi'n gweld ar y'ch gwynebe llwydion chi a'r plant y'ch bod chi'n diodde—yn diodde'n fawr. Rydwi ar fy nhraed i ddeud wrthach chi y medra inne ddiodde hefyd'; a dyma fo'n eistedd i lawr. Doedd o fawr o bregethwr, Tomos, ond y bregeth bach ene oedd y fwyaf effeithiol glywis i rioed; roedd pawb yn crio fel plant, ac fe ddaeth arian ei gyflog i mewn yn llawn y tro hwnnw." Ac wedi dwad i'r fan ene mae taid bob amser yn terfynu.