Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I.—FY ENW

WEL, y peth cynta yr ydw i am ddeud wrthach chi ydi deud bedi fy enw i, o achos peth doniol fuase dechre siarad efo lot o fechgyn a gnethod, a nhwthe heb wybod ar wyneb y ddaear pwy ydech chi. Dydw i ddim o'r un farn â'r bobol yma sydd weithie yn sgwennu clamp o lythyr mawr atoch, a chithe heb un syniad pwy sy'n siarad nes dwad i'w waelod o. Yn y fan honno fe gewch weld eu henw, ac erbyn i chi ddwad ato, yr ydech chi wedi anghofio be oedd yn y llythyr, o achos mae o'n help mawr, wyddoch, i gofio be mae dyn yn ei ddeud os ydech chi'n gwybod pwy sy'n ei ddeud o. Dyna chi Wil y Llan yrwan, mi fedra chwerthin nes bydda i'n sâl am ben stori, os bydd Wil yn ei deud hi, neu rwfun yn ei deud ar ei ôl o, o achos rydw i'n nabod Wil ydech chi'n gweld, ac un doniol ydi Wil. Fe gewch dipyn o hanes Wil eto, os ca i amser. Ond am Jac y Foel, mi fydda i'n teimlo reit ryfedd wrth ei glywed o'n trio deud rhwbeth, a hynny am fy mod i'n nabod y bachgen. Felly mae'n bwysig i chi wybod pwy sy'n siarad efo chi.

Wel, "Tomi" a "Tomi Bach" ydi fy enw mwya cyffredin i; ond o ran hynny, mae gen i beth wmbredd o enwe. Nid rhes o enwe, run fath â phlant brenin, ydw i'n ei feddwl, ond pawb yn fy nabod i wrth enw gwahanol. Fuaswn i ddim yn leicio cael lot o enwe felly. Meddyliwch chi rwan am un ohonyn nhw eisio'i ginio, a'i fam yn galw arno, mi fuase eisio bwyd wedi ei adael erbyn iddi hi orffen ei enwe fo, o achos mi fuase enwe felly yn gneud iddo ddiflasu arno'i hun, a welsoch chi neb