erioed yn byta'n harti, os na fydde fo ar delere da â fo'i hun. Dyna marn i beth bynnag.
Ond i fynd at fy enw-"Tomi," a "Tomi Bach," y mae pobol rispectabl yn fy ngalw i. Rhoswch funud i mi edrych dros y gair Saesneg ene eto i weld a ydw i wedi ei spelio fo'n iawn, o achos bachgen yn Standard V. ydw i wyddoch. "Twm y Fron," neu'r "Bachgen Main," y mae bechgyn yr ysgol yn fy ngalw i. Rydw i'n leicio'r teitl, y "Bachgen Main" yn bur dda, o achos dydi'r bechgyn byth yn ei ddeud o ond pan fyddan nhw'n cael hwyl. Rocdd Jac y Foel yn deud wrtha i mai cael hwyl am fy mhen i roedden nhw wrth ei ddeud o, ond dydw i ddim yn ei goelio; bachgen speitlyd ydi Jac.
"Tomi," a "Tomi Sarah Jones," mae'r gnethod yn fy ngalw i, ac os ydech chi wedi sylwi, mae gnethod bob amser yn rhoi enwe neis ar fechgyn. Wrth gwrs, dydi "Sarah" ddim yn enw arna i, wyddoch. Enw mam ydi "Sarah Jones," ac mae'n haws galw enw mam arna i nag enw nhad, o achos enw nhad ydi "Tomos." Mae pobol yn deud mai "Tomos" fydd fy enw i, wedi i mi dyfu—fod enwe'n tyfu fel plant, medde nhw; ac fel y mae bachgen yn tyfu'n ddyn, fod "Tomi" yn tyfu'n "Tomos." Ond os oes ene enw y mae'n gas gen i o, "Tomos" ydi hwnnw, ac mi ddeuda i chi pam. Rydwi'n cofio mod i'n chware efo bechgyn erill un diwrnod yng ngwaelod y ffordd, yn lle dwad yn fy mlaen yn syth o'r ysgol. Mhen tipyn mi glywn nhad ar ben y drws yn gweiddi—"Tomi, Tomi." Atebes i mono fo, beth bynnag, o achos roedd arna i eisio chware. "Tomi, Tomi," medde fo wedyn, a finne ddim yn ateb. Toc, dyma fo'n gweiddi'n reit chwyrn,—"TOMOS." Mi feddylies yr adeg honno fod rhwbeth yn ei lais o'n deud y dylwn i