fynd, ac mi eis. Wel, y cwbwl a ddeuda i ydi, y buase'n well o lawer imi fynd pan oedd o'n gweiddi "Tomi." A deud y gwir i chi, ar ôl yr amgylchiad hwnnw mi benderfynes nad oedd gen i byth eisio bod yn "Tomos" nes tyfu'n ddyn cry—dyn cry rwan, fel na feder neb roi cweir imi.
Mae o'n rhyfedd iawn, "Tomos" ydi enw pawb bron o'n teulu ni. Dyna chi nhad, "Tomos" ydi ei enw fo. "Tomos Sarah Jones" y mae pobol yn ei alw fynte. Mae pawb, rywsut, yn nabod mam yn well na neb o'r teulu. Feder hi ddim bod yn guddiedig, ac mae nhw'n ein galw ni i gyd wrth ei henw hi. Dyna f'ewyrth Tomos, brawd mam, hefyd; a dyna taid—Tomos Jones, a taid—Tomos Williams. Ond yr oedd ene un o'r dynion yn ein teulu ni, a'i enw heb fod yn "Tomos." Enw rhyfedd iawn oedd gan hwnnw. A be feddyliech chi oedd o? "Uchod." Ddaru mi rioed ei nabod o chwaith; yr oedd wedi marw cyn fy ngeni; ac mi ddeuda i chi sut y deues i wybod amdano. Mynd i'r fynwent ddaru mi efo mam i weld bedd Lisi bach un diwrnod. Chwaer imi oedd Lisi Bach, wyddoch. Mi fu Lisi Bach farw yn nechre mis Mai dwaetha. Mi ddeuda i chi sut yr ydw i'n cofio. Ym mis Mai y bydda i'n cael fy mhen blwydd. Yr oeddwn i'n unarddeg y tro dwaetha. Fuaswn i ddim yn leicio marw ym mis Mai, pan fyddwn i'n blentyn beth bynnag, fuasech chi deudwch? Mae popeth yn fyw yr adeg honno. Mi fûm i'n meddwl lawer gwaith y buase'n well gen i weld Lisi'n marw yn y gaea. Does dim blode'n y wlad yn y gaea. Mae mam yn deud bod y blode yn y nefoedd yn y gaea.
A ffansïwch chi rwan—Lisi Bach yn mynd i'r nefoedd pan oedd y blode i gyd ar y ddaear yma. Rydw i'n siŵr ei bod hi'n teimlo'n