unig ac yn llwm yno, o achos roedd Lisi Bach yn leicio blode,—wrth gasglu blode y cafodd hi annwyd; ond tydi pobol ddim yn cael annwyd yn y nefoedd, medde mam. Gobeithio bod yno flode go neis, heb fod yn tyfu mewn drain fel y blode sy'n ein cae ni, er nad oeddwn i byth mor hapus chwaith â phan fyddwn i'n cael fy mhigo wrth nôl rhosyn o'r gwrych i Lisi Bach.
Wel, i chi, mi eis i'r fynwent un diwrnod efo mam i weld bedd Lisi Bach. Mae mam yn mynd reit amal i weld ei bedd. Wedi mynd i'r fynwent, mi adawes mam, i fynd i chware—lle iawn i neidio ynddo fo ydi mynwent,—a phan ddeues i yn f'ôl, yr oedd mam yn crio; ac wedi imi ofyn iddi pam dyna hi'n deud bod Lisi Bach efo'r angylion. Fedra i yn fy myw weld pam roedd hi eisio crio am fod Lisi efo'r angylion; o achos, a barnu oddi wrth eu llunie nhw, y mae angylion jyst y peth i nethod, ond nid i fechgyn.
Uwch ben bedd Lisi Bach yr oedd ene garreg fawr, a lot o enwe arni hi, a dyna oedd un lein— "Mab yr Uchod." "Mam," medde fi, "ai ewyrth i mi oedd Uchod?" "Nage, machgen i," medde mam, "Tomos oedd ei enw fo, ond rheda di i chware, rwyt ti'n rhy ifanc i ddarllen cerrig beddi; mae eisio lot o addysg i fedru darllen carreg bedd." Wn i ddim pam chwaith, ond bachgen ydw i wedi'r cwbwl, yntê? Wel, i chi, mi weles yn syth mai enw arall ar "Tomos" oedd "Uchod." Ond ddeudes i ddim wrth neb rhag ofn iddyn nhw fy nglasenwi.
Ond rhaid imi stopio rwan. Mae ene rwbeth ar fy llygid i, fel na fedra i yn fy myw weld y papur; a fedra i ddim peidio â chofio am Lisi Bach heddiw,— fel y bydden ni'n chware, a fedra i ddim sgwennu a chofio am Lisi Bach ar unweth rywfodd.