II.—PLANT Y TONNAU
WEL, annwyl ffrindie, un o blant y tonne ydi Tomi Sarah Jones heno. Yr ydw i wedi bod mewn brwydyr dros fy iawndere efo rhai o'r bobol mewn oed heddiw, ac mae hi wedi darfod arna i, neu mewn geirie erill, mi gollis. Yr ydw i newydd orffen rhoi'r waedd ola cyn dechre sgwennu atoch chi, ond dydi'r ochneidie ddim wedi mynd eto. Rhaid imi sgwennu cyn iddyn nhw fynd, er mwyn medru deud fy nheimlade'n iawn. Yr ydw i yn fy ngalw fy hun yn un o blant y tonne am fod mam yn deud mai dyna'r teitl gore imi.
"Bedi' tonne,' mam?" medde fi. "Profedigaethe,' machgen i," medde mam. Mi gymris lot o amser i spelio'r gair ene, ac mae mam yn deud y cymer o flynyddoedd imi spelio ei ystyr,—y cymer o flwyddyn weithie i ddysgu un llythyren. Wedyn, hwyrach, y dysgwch chi ddwy neu dair o lythrenne mewn mis, ac yna hwyrach y cymer o flynyddoedd wedyn i ddysgu'r rhai nesa, yn enwedig y llythyren ola. Mae'r llythyren e ar y diwedd yn un y cymer o lot o amser i ddysgu spelio ei hystyr hi, medde mam; ond wedi dysgu spelio'r ystyr, medde hi, wnewch chi byth mo'i hanghofio wedyn, o achos dydi profedigaethe ddim yr un fath ag adnode wyddoch, does dim byd haws na'u hanghofio nhw. Mi gaiff ystyr y profedigaethe yma, medde mam, ei sgwennu ar lech fy nghalon. Mae'n rhaid imi gyfadde na wn i ar wyneb y ddaear bedi llech fy nghalon. Wrth gwrs yr ydw i'n gwybod bedi llech. Mi dorris un yn yr ysgol y diwrnod o'r blaen, ac mi ges gweir. Yr oedd mam yn deud pan ddois i adre mod i wedi