Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dechre dysgu spelio ystyr profedigaethe. Ond dyna oeddwn i'n mynd i ddeud, wedi'r cweir hwnnw, ac wedi araith mam, mi fûm yn cerdded yn ofalus am ddyddie wedyn, rhag ofn imi syrthio a thorri llech fy nghalon. O achos, welwch chi, dasech chi'n torri honno, mi fuase'n hollti'ch calon chi. Peth miniog iawn yw llech y galon, fel pob un arall, wedi iddi hollti, dybygswn i.

Ond y peth nad ydw i'n ei ddallt ydi sut y mae tonne a phrofedigaethe yr un peth, o achos pan weles i'r tonne ar lan y môr pan oeddwn i efo trip yr Ysgol Sul, yn yr ha, yr oedd rheini'n bethe pur ddifyr. Yr oeddwn i'n molchi nhraed ynddyn nhw pan ddaeth Wil y Llan heibio, ac mi ddarun ein dau sleifio heibio'r gornel a thynnu amdanom a mynd i ymdrochi. Wel, bu bron inni foddi, ond wedi dwad i'r lan, roedden ni'n teimlo'n bur lân a ffresh.

Fedrwn i, beth bynnag, ddim deud pam yr oedd tonne a phrofedigaethe yr un peth, ac mi ofynnis i nhad. "Fel hyn," medde nhad, "Wyt ti'n cofio, Tomi Bach, i ti fynd i ymdrochi yn yr ha?" "Ydw," medde fi. "Sut oeddet ti'n teimlo ar ôl gorffen?." medde fo. "Reit lân a ffresh," medde fi, "ond mod i wedi cael tipyn o fraw." "Do," medde fo, "fe roist fraw i ninne hefyd. Mi fu agos i ti foddi." "Wel," medde fi, "ond sut y mae tonne a phrofedigaethe yr un peth?" "O," medde fo, "felly y mae profedigaethe'n gweithio, mi fyddi'n teimlo'n bur lân a ffresh ar ôl dwad ohonyn nhw, os na fodda nhw di, ond y boddi ydi'r peryg, wyddost. Fe ddoi di i ddysgu'r tebygrwydd yn well eto."

Y cwbwl sydd gen i i ddeud ydi nad ydw i ddim yn teimlo'n lân a ffresh ar ôl y cweir gefes i yn yr ysgol heddiw, heblaw un arall gartre, a hynny am