Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neud pethe hollol ddiniwed. Dydw i ddim yn credu, a deud y gwir i chi, y dyle pobol guro plant am ddim byd. Wrth gwrs, yr yden ni i gyd yn agored i neud mistêcs weithie, ond pan fydd dyn yn gneud mistêc mae o'n cael llonydd,—pan fydd plant yn gneud, mae nhw'n cael cweir. Ac yr ydw i'n deud wrthach chi o ddifri na ddaru mi ddim meddwl mod i'n gneud dim byd o'i le. Mi fuase Jac y Foel yn deud, "Naddo wirionedd inne bach hefyd. Cris croes, tân poeth." Fel ene mae o'n selio ei bethe, ond mi ddeudodd y blaenor wrtha i fod hynny o'i le i blant y seiat ei ddeud, ac am fy mod i'n hogyn sy'n trio, beth bynnag, trio gneud popeth yn iawn, ddeuda i mono fo.

Wel, rhaid imi fynd at fy stori. Mae Jac y Foel, a fi, yn gorfod mynd yr un ffordd i'r ysgol, a dydw i ddim yn leicio Jac, fel y deudes i y tro dwaetha. Y mae ene ddau le pwysig i ni basio—tŷ Siân y Fferins Duon, a'r Tyno,—lot o goed cnau ydi'r Tyno, wyddoch, a miloedd o gnau a gwningod yno. Yr hen Siân ydi'r ddynes sy'n deud bob amser yn y Seiat:—

"Wedi bod, mi ddeuaf allan, Wedi mhuro fel aur coeth."

Mae Wil y Llan yn deud ei bod hithe'n un o blant y tonne, neu na fuase hi ddim yn deud felly. Cofio mae Wil am drip yr Ysgol Sul. Wel, fe roedden ni'n mynd heibio i dŷ Siân, ac yr oedd un o'r ieir yn cadw sŵn ofnadwy, a bron rhy wan i sefyll gan mor dene oedd hi. "Weli di iâr Siân?" medde Jac, "mae gen i gynllun iddi gael bwyd." "Bedi hwnnw?" medde fi. "Gollwng y mul oddi wrth y postyn acw, a rhwymo'r iâr yn ei le fo, er mwyn iddi hithe gael pori tipyn," medde Jac. A deud y gwir i chi, dydi