Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jac ddim yn hogyn caredig, ac mi edryches i'w wyneb, ond roedd hwnnw'n ôl reit. Ffwrdd â ni i ddal yr iâr, dyma hithe'n hedeg i ben draw'r cae, -dydi iâr ddim yn nabod ei ffrindie gore, wyddoch, mwy nag ambell blentyn. O'r diwedd dyma ni'n ei dal, a mi aethom â hi, a'i rhwymo gerfydd ei gwddw efo'r cortyn, wrth y postyn, run fath ag yr oedd y mul, er mwyn iddi hithe gael pori, ydech chi'n gweld. "Ngwas i," medde Jac, "mi gei di weld y bydd yr iâr ene reit dew pan ddown ni o'r ysgol," ac i ffwrdd â ni'n bur ysgafn galon am ein bod wedi gneud un tro caredig, beth bynnag.

Pan oedden ni'n croesi'r Tyno beth wele ni'n rhedeg ar draws y llwybyr ond gwningen fechan. Yr wythnos gynt yr oeddwn wedi colli ngwningen, ac mi feddylies hwyrach mai hi oedd hi, a ffwrdd â ni ar ei hôl. Pan oedden ni bron colli'n gwynt, mi ddalies i'r wningen, ac mi rhois hi yn fy mhoced. Doedd Jac ddim yn hanner leicio mod i wedi ei chael hi chwaith. Yr oedden ni'n hwyr i'r ysgol, ond dim ods, roedd gen i wningen. Tua chanol y pnawn, dyma'r scŵl yn mynd i ben arall yr ysgol, a dyna Jac y Foel yn deud, "Mae gen i gynllun, Tomi." "Bedi hwnnw?" medde fi. "Tyn dy wningen allan," medde fo, "a gafael yn ei phen, mi afaela inne yn ei chynffon, a thynnu tipyn bach, dim ond dipyn bach, ac os gneiff hi weiddi mi wyddom ei fod o'n ei brifo, ac mi ddeudwn wrth bawb am beidio byth â gneud peth felly i wningod, ei fod o'n eu brifo, ond rhaid inni gael gwybod ydio'n eu brifo nhw'n gynta, wyddost, cyn y medrwn ni ddeud." Yr oeddwn i'n ei weld o'n gynllun pur dda er mwyn inni fedru amddiffyn gwningod yn y dyfodol, a dyma fynd at y gwaith. Pan gafodd Jac afael yn ei chynffon