III.—WIL Y LLAN
WEL wir, bachgen iawn ydi Wil y Llan beth bynnag, ac mi ddeuda i chi pam,-dydi Wil ddim yn snêc. Rydwi wedi gweld Wil yn ymladd droeon, ond weles i rioed mono fo'n ymladd efo neb llai na fo'i hun; ond anamal iawn y mae Wil yn ymladd o gwbwl, os na wêl o rwfun yn cael cam; ond siort arall o hogyn yn hollol ydi Jac y Foel. Y mae o wastad yn brolio ei fod o wedi bod mewn llawer brwydyr boeth, ac wedi waldio ei elyn bob tro, ond erbyn i chi chwilio, rhyw fachgen o Standard I., neu'r Ysgol Bach, ydi'r gelyn bron wastad. Dydi Wil y Llan byth yn ei frolio'i hun, ond mae pawb arall, bron, yn ei frolio, a fo ydi fy ffrind mwya i.
Rydech chi'n cofio helynt y wningen honno efo Jac y Foel. Mae Jac yn fwy na fi, ac yn Standard VI., ond mi feddylies y buaswn i'n deud wrtho fo gymint o snêc oedd o. "Jac," medde fi, yn yr ysgol drannoeth, pan oedd y mistar ddim yn edrych, "hen snêc wyt ti." "Dywed hynene eto, was," medde fo, ac er fy mod i'n crynu, mi ddeudes hynny wedyn. "Rhosa di nes awn ni allan," medde Jac, ac aros ddarum i'n bur ddigalon am imi fod mor feddal. Wedi mynd allan, dyma Jac ata i, ac yn gofyn imi roi slap llwfrgi iddo fo, ond hwyrach na wyddoch chi ddim bedi slap llwfrgi. Dyna ydi o: os byddwch chi'n slensio bachgen, rydech chi'n tynnu'ch llaw ar draws ei geg, slap llwfrgi ryden ni'n galw hynny, ac y mae ynte'n taro'n ôl, neu mae o'n llwfrgi.
Wel, dyma fi yn rhoi slap llwfrgi i Jac, a dyma Jac yn rhoi strôc imi nes oeddwn i'n teimlo fel y bydda i weithie ar ôl byta gormod o fara brith mewn te parti.