Mi wyddoch am y teimlad. Doeddwn i ddim am roi i fyny, beth bynnag, a dyma fi ato fo wedyn. "Tara fi eto was," medde fi, ond roedd fy llais i reit wan, a dyna Jac yn ufuddhau imi. Doedd gen i ddim digon o galon i'w daro fo'n ôl, a'r cwbl wnes i oedd deud wedyn, gan sefyll yn o syth, a nghalon yn fy ngwddw. "Tara fi eto, was," a dyma Jac yn ufuddhau imi wedyn, a phan oeddwn i ar fin dechre crio, a deud wrth Jac y deudwn i wrth mam, ac mi fuase hynny'n gwilydd imi am byth bythoedd, pwy ddaeth yno ond Wil y Llan.
"Rhag cwilydd iti, Jac," medde fo, "dwyt ti byth yn taro neb ond rhwfun llai na thi dy hun, yr hen snêc; os oes arnat ti eisio taro rhwfun, tara fi," medde fo, gan gau ei ddwrn; a phan oedd Jac yn dechre edrych am le i ffoi dyna gloch yr ysgol yn mynd. Y pnawn hwnnw, wrth fynd adre o'r ysgol, roedd Jac yn mynd adre dipyn o mlaen i, ac mi clywn o'n deud wrth un o fechgyn yr Ysgol Bach, fod yn dda i Wil y Llan fod y gloch wedi mynd pan ddaru hi, neu y buase hi'n bur ddigalon arno. Ond deud ei brofiad ei hun oedd Jac y Foel.
Wel ïa, am Wil y Llan yr yden ni'n sôn yntê? Welsoch chi neb erioed yn fwy dewr na Wil. Does arno fo ddim ofn dim byd. A deud y gwir i chi yn ddistaw, dydwi ddim yn un dewr iawn fy hun, ond yr ydwi bob amser yn teimlo'n ddewr pan fydda i efo Wil, ac y mae Wil a fi efo'n gilydd o hyd. Rydwi'n cofio un bore yn yr ysgol i Bob yr Hafod ddeud bod ene ddafad wyllt yng Nghae'r Felin, a'i bod hi wedi rhedeg ar ôl John Jones y Ddôl, pan oedd o'n pasio drwodd. Doedd Bob ddim yn ffrindie efo Wil am fod Wil wedi ei rwystro fo neud sbort am ben Mari Wirion un diwrnod. Mi fydd