Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gen i rwbeth i ddeud am Mari Wirion cyn gorffen. A dyna Bob yn deud ei bod hi'n gamp i Wil fynd drwy Gae'r Felin. Sut, meddech chi, yr oedd Bob yn medru siarad yn yr ysgol ac ynte efo'i waith. O, mae hynny'n bur hawdd. Deud y Tables i gyd efo'n gilydd roedden ni, ac mi roedd Bob, a Wil, a fi, yn eistedd efo'n gilydd. Roedd Bob yn deud y Tables, fel y plant erill, ar y Top Doh. Rydech chi'n gwybod yn iawn am y ddau Doh sy'n y miwsig yr yden ni'n ei ddysgu. Roedd Bob yn deud y Tables ar y Top Doh, a'r stori ar y Doh Isa. Roedd geirie'r stori hefyd yn cael eu deud yn gyflym, a'r Tables yn ara deg, rwbeth fel hyn, os galla i neud fy meddwl yn glir i chi:

Y Top Doh.Y Doh Isa.

Bob: Twice One are two,—mae-'ne-ddafad-wyllt-yng-Nghae'r Felin.

Twice two are four,—mae'n-gamp-iti-gerdded-drwy'r-cae-was.

Wil: Twice three are six—rhosa-di-tan-ganol-dydd-machgen-i.

Bob: Twice four are eight—mi-fetia-i-na-wnei-di-ddim.

Wil: Twice five are ten—be-feti-di?

Bob: Twice six are twelve—chwech-o-farbls.

Wil: Twice seven are fourteen—Ol-reit-was-mi-gei-weld.

ac felly ymlaen.

Dyma ganol dydd yn dwad, a phawb i ginio, ac wrth ddwad yn ôl, dyma Wil a mi drwy'r cae, a phan welson ni swp o ddefed, dyna ni i'w canol nhw—Wil ynghynta, a finne reit ddewr ar ei ôl o. Mi redodd pob dafad i ffwrdd ond un-bacio yn ei hôl ddaru honno yn ara. Roeddwn i'n meddwl mai ofni Wil roedd hi, ac ddim am gyfadde, ond erbyn imi weld,