Efo'i nain y mae hi'n byw, ac mi fydde lot o'r bechgyn yn mynd ar ei hôl hi'n amal; a phan fydde hi'n dwad adre dan ei baich, mi fydden yn rhedeg ati hi, ac yn chwalu ei baich, er mwyn ei gweld hi'n tynnu gwynebe, a'i chlywed yn sgrechian, a deud geirie drwg; ond un dydd Sadwrn, roedd lot o honon ni wedi mynd i guddio yn y coed erbyn y deuai hi'n ôl, a phwy a welen ni'n dwad i lawr y llwybyr ond Wil y Llan. Mae gan Wil chwaer o'r enw Myfanwy. Wedi mynd i ganol y coed, mi eisteddodd ar ddarn o bren. Toc, dyma Mari'n dwad, ac mi welem Wil yn mynd ati hi ac yn cymryd ei baich oddi arni, ac yn ei gario fo trosti, a dyma fo'n dwad yn ei flaen heibio i'r lle yr oedden ni'n cuddio, a Mari yn ei ochor yn gwenu, ac yn wir roedd ei gwyneb hi mor wahanol i arfer fel na fuase chi ddim yn ei chymryd hi am yr un eneth. Wedi iddyn nhw basio dyma ni i gyd yn chwalu a mynd adre, heb ddeud yr un gair wrth ein gilydd; roedd arnon ni ormod o gwilydd. Yn wir, roedd pob un yn mynd adre fel ci wedi torri'i gynffon, a ddaru run ohonon ni byth sôn gair am y peth wrth neb wedyn. Ond mi gafodd Mari lonydd o hynny allan. Bachgen iawn ydi Wil y Llan.
Pam y mae o'n fachgen mor dda, meddech chi. Rydw i'n credu mod i'n gwybod. Y mae gan Wil dad da iawn. Dyn da ydi William Jones. Cyn gorffen, mi ddeuda i chi dipyn o'i hanes. Y mae pawb yn leicio William Jones, o achos dydio byth yn deud gair cas wrth y plant. Ond yr hyn a ddangosodd William Jones yn ddyn da oedd hyn. Mi frifodd yn y chwarel yn ofnadwy un diwrnod, a dyma'r plant i gyd i'r ysgol yn y pnawn, ac yn deud bod tad Wil y Llan wedi ei ladd, ond doedd o ddim—wedi brifo yn ofnadwy yr oedd. Mi fu yn ei wely am wsnose yn