Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

methu symud. O'r diwedd, mi fedrodd godi allan wrth ei fagle, a chyn gynted ag y cododd allan, dyma fo i'r cwarfod gweddi nos Lun. Rydwi'n cofio'n iawn y stŵr oedd yno wrth weld William Jones yn dwad i mewn yn ddyn reit ifanc, ond ei gefn yn gam, a'i wyneb yn wyn, ac yn pwyso ar ei fagle. Roedd ene lwmp yn fy ngwddw i, ac roedd pawb yn edrych fel tase fo'n methu llyncu, fel finne. John Jones y Ddôl oedd yn arwain, a dyma fo'n deud, "William Jones, ydech chi'n teimlo ar eich calon i gymryd rhan yn y moddion?" a dyna William Jones yn dwad wrth ei fagle tua'r sêt fawr, ac yn adrodd wrth ddwad:—

Rhyfedd na fuaswn nawr
Yn y fflamau,
Wedi cael fy nhorri lawr
Am fy meiau;
Am fy mod i heddiw'n fyw,
Mi rof deyrnged;—
Clod a mawl i'm Harglwydd Dduw
Am fy arbed.


Pan oedd o bron darfod y pennill, mi ddechreuodd grio, a fedrodd neb ei ganu o, oherwydd roedd pawb yn crio. Mi ddysges i'r pennill erbyn yr Ysgol Sul y Sul wedyn. Pan oeddwn i'n mynd adre, mi glywn John Jones yn deud wrth rwfun, "Os oes sant yn y byd, William Jones ydi hwnnw.'

Dyna'r pam y mae Wil y Llan yn fachgen mor iawn yn ôl fy meddwl i.