IV.—Y MIS
DOES gen i ddim eisio gweld pregethwr yn dwad i'n tŷ ni eto nes imi fod yn bregethwr fy hun, o achos rydw i'n meddwl rwan mai dyna fydda i, dydw i ddim am fod yn was ffarm beth bynnag. Y mae Jac 'y mrawd yn was ffarm, mi gewch glywed amdano fo eto. Roeddwn i'n arfer meddwl bod gwaith gwas ffarm yn job ardderchog, wrth weld Jac yn dwad heibio i'n tŷ ni weithie ar gefn y gaseg las, ond mi ddalies Jac un diwrnod yn crio yn llofft yr Hafod pan eis yno efo'i ddillad glân o; a phan ffeindies i beth oedd y mater, mi benderfynes nad awn i byth yn was ffarm. Yr oeddwn i wedi meddwl ers talwm mynd yn un o dri pheth—yn was ffarm, yn sowldiwr, neu'n bregethwr, ac wedi meddwl y peth yn ddwys, rydwi'n barnu mai bod yn bregethwr ydi'r peth saffa. Mewn mater o ddillad, does ene fawr o wahaniaeth rhwng pregethwr, sowldiwr, neu blismon. Y mae'r wlad yn disgwyl iddyn nhw ddangos ar eu cotie beth yden nhw, ac mi fuaswn i'n leicio. bod yn rhywbeth fuase'n caniatáu imi wisgo iwnifform, fel y bydd y scŵl yn galw dillad sowldiwr. Ond yr hyn yr oeddwn i'n mynd i ddeud wrthach chi oedd, pam nad oes gen i eisio gweld pregethwr eto yn ein tŷ ni, yn byta yr ydw i'n feddwl, ond yr ydw i'n leicio gweld rhai pregethwrs yn galw. Dyden ni ddim arfer â chymryd pregethwrs i fyta yn ein tŷ ni wyddoch, o achos nad yden ni ddim yn swels; ond pnawn Sul, wythnos i'r dwaetha, dyma Margied Hughes, y Pant, yn galw yma wrth ddwad o'r ysgol Tomi," medde hi, "ydi dy fam i mewn?" A dyma mam i'r golwg. "Sarah Jones," medde