Margied Hughes, "yr ydw i'n galw i ofyn cymwynes i chi. Yr yden ni ar ganol weitwasio'r tŷ acw, a phapuro'r parlwr, ac mae arna i ofn na fyddwn ni wedi darfod erbyn y Sul nesa, ac mae Mr. Jones, y gweinidog, acw yn byta—ein mis ni ydi o; a dyna oeddwn i cisio galw, oedd i ofyn a fuasech chi'n ei gymryd o drosta i am y tro. Dyn reit neis ydi Mr. Jones,—digon hawdd i'w blesio."
Wel yn wir, mi feddylies fod mam yn mynd i gael strôc. Dyma hi'n dechre crynu, ac yn mynd reit wyn yn ei gwyneb, ac yn eistedd i lawr, a minne'n rhedeg i nôl llymed o ddŵr iddi hi. Pan ddaeth hi ati ei hun, mi ddeudodd, "Peidiwch â chymryd braw, Margied Hughes, hyrio tipyn ddaru mi o'r ysgol; mi gofies pan oeddwn i'n ymyl y capel, yn mynd yno, fy mod wedi anghofio rhoi bwyd i'r moch, ac mi wyddwn y buasen nhw'n codi'r wlad." Mi wyddwn inne fod y moch wedi sbwylio'r ysgol i mam; ond waeth un gair na chant, y pregethwr ddaru sbwylio ei the hi. Yn y man, mi ddeudodd, "Braidd yn sydyn ydi'r peth hefyd, Margied Hughes. Dyna hi'n ddydd Mercher ymhen tridie, ac wedi hynny mi ddaw yn ddydd Sadwrn ar slap; a dyna chi ddydd Sul yn syth, ond mi wna i fy ngore o dan yr amgylchiade.'"
Welsoch chi rotsiwn beth ar hyd yr wythnos wedyn. Ddaru mam ddim mwynhau'r un pryd bwyd nes i ginio'r Sul nesa fod yn barod. Wel, i chi, bore drannoeth, rhwng twyll a goleu, mi glywn mam yn gweiddi, "Tomi," nes bod y tŷ yn crynu. Pan ddeffris i'n ddigon i wybod beth oedd fy nyletswydd, mi glywn mam yn siarad efo hi ei hun. Y mae ene ddau ddeffro, fel y gwyddoch chi,—un deffro ydi deffro'n ddigon da i wybod eich bod chi yn eich