Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwely, a'i bod hi'n reit cyfforddus yno. Mi fydda i'n leicio'r deffro hwnnw; a'r deffro arall ydi deffro'n ddigon da i wybod bod eisio i chi ddwad ohono fo; a dyna'r deffro nad ydw i ddim yn ei leicio. Pan oeddwn i'n y canol rhwng y ddau ddeffro, mi glywn mam yn scrwbio llawr y siambar ore,—y siambar y bydd nhad a mam yn cysgu ynddi—ac yn siarad efo hi ei hun. Yr oedd y sŵn oedd yn dwad tua ngwely i yn rhywbeth tebyg i hyn,—"Weles i rotsiwn beth erioed, ys gwn i hefyd—scrwb—dyma hi yn fore Llun ac yn berfedd o'r dydd—TOMI—Scrwb—a'r pregethwr yn dwad yma'r Sul—scrwb—a finne eisio gneud y tipyn lle yma'n lân—scrwb—O! diar mi—TOMI—ymh'le mae'r bachgen ene deudwchTOM—I—I." Mi atebes inne yr adeg honno, "Mam," medde fi. "Yn lle rwyt ti, dywed?" medde mam, "pam na chodet ti, a'r pregethwr yn dwad yma dydd Sul?" Roeddwn i'n nabod y llais hwnnw, a dyma fi i lawr ynghynt na chynted gallwn i. "Beth ydech chi eisio scrwbio'r siambar yma?" medde fi, "fydd y pregethwr ddim eisio cysgu yma, dwad yma i ginio y mae o." "Wel ia," medde mam, "ond mi fydd dyn fel fo eisio molchi ei ddwylo ar ôl cinio, a fuaswn i am y byd yma yn gadael iddo fo fynd i ymolchi i'r badell i'r bwtri."

Wel, i chi, y pregethwr oedd yn gyrru mam drwy'r dydd y Llun, ac erbyn pnawn Llun roedd hi wedi dechre chwyddo. "Cofia di ddwad o'r ysgol reit handi heddiw'r pnawn, Tomi," medde hi, "gael i ti fynd i'r Hafod i ordro hanner sached o datws imi." "Diar mi, mam," medde fi, "fydd y pregethwr ddim eisio cymint â hynny." "Mi wn i hynny," medde mam, "ond y mae gen i eisio tipyn go dda, er mwyn imi gael dewis y rhai gore ar gyfer Mr. Jones, a