Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael glanhau'r gegin, ond mi fuase'n werth i chi weld y pethe shilff pen tân ar ôl iddi orffen,roedden nhw'n sgleinio'n werth chweil, a dyna lle roedd hi yn gneùd llwybyr o hen bapur newydd oddi wrth riniog y drws yn syth i'r bwtri, ac oddi yno at bost y gwely, fel mai cerdded ar bapure newydd yr oeddwn i bob amser, ond pan fydde daear galed o dan fy nhraed, ac awyr las uwch fy mhen.

Bore Sadwrn a ddaeth, beth bynnag, a Tomi Sarah Jones ddaru ddeffro pobol y siop y bore hwnnw. "Tomi Bach," medde mam; roedd hi wedi gweld bod fy ngalw i'n "Tomi Bach" yn rhoi mwy o ysbryd yn fy nghoese i na dim arall. "Tomi Bach," medde mam, "cwyd machgen i, gael iti fynd i'r siop cyn i'r crowd ddwad yno, neu mi fydd ene hen siarad wrth weld beth wyt ti'n brynu. Mae'n haws cau llygid pobol, wyddost, na chau eu cege nhw; felly, cwyd, Tomi Bach." A dyna Tomi Bach yn curo wrth ddrws y siop y bore hwnnw, cyn i neb godi, ac wedi iddyn nhw agor, dyma fo'n prynu sgryglwyth o bethe sydd ar ein cefne ni byth yn aros am eu byta; a mhrofiad i ydi fod popeth yn reit ddiflas os cadwch chi o ar ôl y diwrnod y bwriadwyd ei fyta. Rydech chi wedi edrych amdano fo gymint y diwrnod hwnnw, fel os cewch eich siomi, y mae'r siomiant yn ei suro i chi erbyn drannoeth.

Erbyn un o'r gloch y pnawn, fedre neb aros yn y tŷ, am ddau reswm: un rheswm oedd mam, yr oedd hi ymhob man ar unweth rywsut. Mewn gair, yr oedd hi'n hollbresennol, fel y byddan nhw'n deud. B'le bynnag yr aech chi yr oedd mam yno yn deud wrthach chi am symud o'i ffordd hi; a'r rheswm arall oedd y tân. Yr oedd y popty yn goch fel ffwrnes, ac ogle cig am filltiroedd, rydw i'n siŵr.