Wedi darfod ei ginio, dyma nhad yn deud ei fod o wedi rhyw feddwl drwy'r bore mynd i edrych am taid y pnawn hwnnw, gan ei bod hi'n bnawn braf; ac wedi molchi, i ffwrdd â fo. Ddaeth o ddim yn ôl nes ei bod hi'n hwyr, beth bynnag; a phan ddaeth o, roedd mam wrthi hi'n brysur yn malu nionod, neu winiwns fel y bydd rhai ohonoch chi yn eu galw nhw, ag ôl crio mawr arni hi,—y nionod oedd wedi tynnu'r dagre, wyddoch. A chan ei bod hi mewn rhyw gyflwr braidd yn anesmwyth, mi feddyliodd nhad mai gore oedd bod yn ddistaw. Mae'n arferiad ganddo fo'n bur amal fin nos sefyll. ar ben y drws i fwmian canu, ac edrych ar yr awyr. Ac ar ôl tamed o swper nos Sadwrn, aeth i ddilyn ei hen arfer, ac mi sylwes i mai dyna'r pennill, oedd o'n ei ganu rhyngddo a fo'i hun:—
"Ar ôl gofidiau dyrys daith
Cawn orffwys yn y ne."
Y mae'n debyg na wydde fo ddim beth oedd o'n ei ganu,—rhyw fwmian oedd ei arfer; ond dyna'r pennill oedd ganddo dan sylw, beth bynnag.
Toc, dyma'r geirie, "O! Diolch!" yn dwad oddi wrth mam, a dyna nhad a finne yn dechre anadlu. Roedden ni wedi anghofjo gneud y job honno ers meitin. "Tomos," meddé hi wrth nhad, â golwg ledi neu frenhines arni hi, "waeth gen i dae'r brenin yn dwad i nhŷ i rwan."
A deud y gwir i chi, roeddwn i'n falch o mam y munud hwnnw,—roedd golwg ar ei gwyneb hi yn dangos mai anrhydedd ei theulu bach oedd wedi bod benna yn ei golwg druan, drwy'r wsnos, ac er nad ydw i'n ddim ond hogyn, mi wn un peth, a hwnnw ydi, na fedrwch chi ddim deud faint mae eich mam