yn ddiodde er cadw eich anrhydedd chi a minne i fyny yn y pentre yr ydech chi'n byw ynddo. Rydw i wedi clywed llawer o sôn am fod yn falch a thlawd. Wel, y cwbwl a ddeuda i ydi mod i'n credu bod tlodi yn rhwbeth i falchio ynddo, os meder o neud pobol feder aberthu fel mam er mwyn ei guddio, hyd yn oed drwy neud cinio i bregethwr.
Wedi'r esmwythdod y soniais i amdano, dyna ngalw i ymlaen, a deud wrtha i sut i neud amser cinio'r Sul, am imi beidio byta efo'r gyllell (rhag ofn imi dorri ngheg debygswn i) na chodi oddi wrth y bwrdd tan y diwedd, na pheidio â gofyn am chwaneg o ddim byd, a gofalu deud "thenciw" am bopeth, a pheidio â rhoi mreichie ar y bwrdd, ac felly ymlaen.
Ar y diwedd, wedi inni gadw dyletswydd, dyna ni i gysgu, ac i orffwys yn dawel; ond rywbryd ynghanol y nos, mi glywn mam yn gofyn i nhad, "Tomos, ddaru chi gofio weindio'r cloc?" "Naddo wir, Sarah bach," medde nhad, "mi anghofies rywsut yn fy ffwndwr." Ar nos Sadwrn y mae nhad arfer a weindio'r cloc. "Wel, dyna hi eto wedi darfod arnon ni," medde mam, "o achos mae'ch watsh chi yn y dre." A chyn dydd bore drannoeth yr oedd Tomi yn gorfod mynd wedyn, a dyna lle roedd o'n curo wrth ddrws hwn a'r llall, a neb yn ateb; ond o'r diwedd dyma fedru deffro rhwfun, ac wedi i mi ei ddeffro, mi glywn ryw sŵn yn ei lais yn deud wrtha i nad oedd o, beth bynnag, ddim yn arwyddo bod y diwrnod hwnnw fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. "Beth sydd gennot ti'i eisio?" medde fo. "Mae mam yn gofyn os gwelwch chi'n dda fod nhad yn gofyn bedi hi o'r gloch," medde fi. "Pum munud i saith," medde fo. Dyna finne adre, ond mi weles ŵyn bach ar y ffordd mewn rhyw gae, ac mi anghofies fy