neges wrth eu gwylio nhw. Pan gyrhaeddes i adre mi ddeudes beth oedd hi o'r gloch, ond ddaru mi ddim cofio am yr ŵyn. Y diwedd fu, beth bynnag, i mam ganiatáu deng munud imi ddwad adre, a gosod y cloc ar bum mund wedi saith. Ond erbyn i ni fynd i'r capel, roedd y pregethwr yn cymryd ei destun, a hithe'n hanner awr wedi deg. A chan ein bod ni bob amser mewn pryd, roedd pawb yn gwenu, ac mi wyddwn eu bod nhw'n rhoi'r bai ar y cinio. Ond yr ŵyn bach wnaeth y gwaith.
Doedd mam ddim yn y capel, er bod y cinio'n barod er nos Sadwrn. Yr oedd hi wedi cymryd i'w phen nad oedd o ddim yn beth rispectabl i'r pregethwr weld gwraig y tŷ bwyd yn y capel y bore, yn gwrando arno, rhag ofn i hynny sbwylio'r bregeth, drwy neud iddo fo feddwl bod y cinio hwyrach yn sbwylio, a'r wraig yn y capel.
Wel, dyma'r awr bwysig o'r diwedd yn dwad. Mi eis i adre yn llaw nhad fel babi, â mys yn fy ngheg. Dyma'r pregethwr yn gofyn imi am adnod, ac mi caseais o'n syth, o achos rydwi'n siŵr nad oedd Iesu Grist ddim yn gofyn i bob plentyn wele fo am adnod,—neu fuase'r plant ddim mor ffond ohono ag oedden nhw. Dyma'r cinio o'r diwedd ar y bwrdd yn mygu'n braf, yn datws, a chig, a phopeth; a mam fel brenhines uwchben y bwrdd, a minne'n teimlo'n falch o bob cam a roddes i yr wythnos gynt er mwyn iddi fedru ei dangos ei hun i gymint o fantes gerbron y gweinidog.
Ond pan ddaeth y cinio, dyma Mr. Jones yn deud, "Chymra i ddim tatws a chig, thenciw, Mrs. Jones, fydda i byth yn eu cyffwrdd nhw ar y Sul,—dim ond tamed o fara a menyn reit teneu, a phaned o de, os gwelwch chi'n dda."