V.—LISI BACH
YR ydech yn cofio imi ddeud wrthach chi ers talwm fy mod yn cael fy mhen blwydd fis Mai. Wel, yr ydw i wedi ei gael o yr wsnos dwaetha, ac yr oeddwn i'n ddeuddeg oed. Rydwi'n cofio bod Joe, gwas yr Hafod, wedi deud wrtha i pan oeddwn i'n wyth fod wiscars dyn yn dechre tyfu pan fydde fo'n ddeuddeg oed, ac mi coelies o, oherwydd yr oeddwn i'n meddwl pan oeddwn i'n wyth fod bachgen deuddeg yn rhwfun mawr iawn. Wel i chi, y bore yr oeddwn i'n ddeuddeg, mi eis ar flaene fy nhraed at y looking glass i'r siambar ore, dyna'r unig looking glass iawn sydd gennym ni yn ein tŷ ni wyddoch, yr ydech chi'n gweld eich gwyneb i gyd efo'i gilydd yn hwnnw. Yr unig beth sydd gennym ni yn y gegin ydi caead hen focs oel gwallt, a fedrwch chi ddim edrych i hwnnw ond efo un llygad ar unwaith, a phan osodwch chi o ar gyfer eich coler i edrych a ydi hi'n lân ac yn ei lle, does gennoch chi'r un llygad yn y fan honno i weld dim byd. Ond o ran hynny dydw i byth yn gwisgo coler ond ar y Sul, a dyden ni byth yn cael mynd i weld ein hunen i looking glass y siambar ond ar y Sul a diwrnod cwarfod pregethu.
Wel, y bore yr oeddwn i'n ddeuddeg oed mi eis i'r glass yn y siambar ar flaene nhraed, heb i mam weld, a dyna lle roeddwn i'n stretshio fy ngwyneb yn y fan honno, ac yn ei dynnu o bob shâp, gan obeithio y medrwn i ei gael o i'r shâp priodol yn y man fel y bydde'r goleu'n disgleirio ar fy wiscars i, o achos yr ydwi wedi sylwi lawer gwaith fod rhai wiscars yn anweledig, os na fydd goleu yn disgyn arnyn nhw o ryw gyfeiriad arbennig. Wedi bod yno am dipyn mi