eis yn bur nerfys, o achos yr oedd nain wedi deud wrtha i pan oeddwn i'n fachgen bach, fod plant oedd yn edrych yn hir i'r glass yn siŵr o weld y diafol ynddo, a phan oeddwn i ar ganol y cwafars yma efo ngwyneb, mi deimlwn rwbeth y tu ôl imi. Mi feddylies i'n syth mai'r hen greadur oedd o, ac mi ddychrynes gymint fel na fedrwn i symud na bys na bawd, na hyd yn oed tynnu fy ngwyneb i'w le o'r shâp rhyfedd yr oeddwn i wedi ei roi o ynddo. Fel y deudes i, yr oeddwn yn naturiol nerfys yn ymyl y glass mawr, oherwydd nid yn unig yr oedd nain wedi deud bod y diafol yn ymddangos ynddo fo i blant fydde'n edrych gormod iddo, ond yr oedd mam bob amser yn rhoi Ilian drosto ar adeg mellt a thrane, rhag i'r arian byw dynnu'r mellt ato, medde hi. Ac onid yw'n rhesymol i fachgen deimlo'n nerfys yn ymyl rhwbeth sy'n cael ei gysylltu ganddo bob amser efo mellt a thrane, a'r diafol.
Deud yr oeddwn i, yntê, mod i wedi teimlo rhwbeth y tu ôl imi yn sydyn pan oeddwn ar ganol chwilio am fonau wiscars, nes imi fferru, a dyma lais mam yn gofyn yn sydyn ac yn chwyrn, "Tomi, be wyt ti'n ei neud yn y fan ene wrth y glass mawr, a hithe'n ddim ond dydd Mercher?" "Edrych oedd gen i fonau wiscars mam," medde fi, "o achos roedd Joe'r Hafod yn deud bod gan fachgen deuddeg oed fonau wiscars." "Wiscars wir," medde mam, "mi ro i iti wiscars," a dyna fi'n cael clowten ar ochor fy mhen nes fy mod i'n gweld miloedd o lygid yn rhythu arna i drwy'r glass. Ac os na weles i wiscars, mi deimles eu bonau yn mynd i nghnawd i, dan ddylanwad y clowtio hwnnw.
Yr oeddwn i wedi sôn wrth mam y diwrnod cynt am fy nydd pen blwydd. "Mam," medde fi, "oes