gennoch chi eisio rhyw neges gen i heddiw, cyn imi fynd i'r ysgol,—cario dŵr i'r tŷ neu rwbeth felly?" Doeddwn i byth arfer â chynnig pethe felly wyddoch, ond ar adege neilltuol. "Nac oes," medde mam, "dos i'r ysgol." Ond rhyw ogor—droi fel iâr ungyw oeddwn i beth bynnag,—"mam," medde fi wedyn, "fuase chi'n leicio imi alw am rwbeth o'r siop ichi wrth ddwad o'r ysgol heddiw?" "Be harru'r bachgen deudwch," medde mam, "dos i'r ysgol y funud yma." Ond rhyw ogordroi yr oeddwn i o hyd, o achos yr oedd ene rwbeth yn pwyso arna i, a fedrwn i yn fy myw fynd i'r ysgol nes ei gael o allan. "Mam," medde fi yn y man, wedi imi ngosod fy hun mewn shâp rhedeg, "yr ydw i'n ddeuddeg oed fory."
Chlywes i ddim beth ddeudodd mam, ond mi fedres blygu mhen jyst yn ddigon buan i ngwared fy hun rhag dwad i gyffyrddiad â'r ysgub, oedd yn teithio'n gyflym tuag ata i ar y pryd. Wel, er y cwbwl, mi wyddwn i fod popeth yn iawn, o achos yr oeddwn i'n nabod mam. Pan fydda i'n sâl wyddoch, wnaiff mam ddim cwyno imi, ond pan a i o'r golwg, ac i wraig y tŷ nesa ddwad i mewn, gallasech feddwl ar siarad mam wrthi, mod i'n ddigon sâl i farw. Dyna oeddwn i'n ei ddeud, gan fy mod yn nabod mam, yr oeddwn i'n eitha tawel.
Y nosweth honno, wrth i nhad a mam ddwad i'w gwelyau, a minnau, oedd yn fy ngwely ers meitin, yn cymryd arna gysgu, mi clywn nhw'n ymgomio. "Tomos," medde mam, "wyddoch chi fod y bachgen yma'n ddeuddeg oed fory?" "Diar mi," medde nhad—"fel y mae'r amser yn mynd!" "Ydi," medde mam, "a rhaid imi gael rhwbeth iddo fo," "Wel, ia wir," medde nhad, "eitha peth fuase hynny, Sarah bach, y mae o'n fachgen go dda."