Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ydi," medde mam, "mae o'n un o'r bechgyn gore yn y wlad." Yn y fan yma dyma fi'n chwyrnu dros y lle, er mwyn rhoi ar ddallt iddyn nhw mod i'n cysgu'n drwm. "Tydio ddim hanner da y dyddie yma chwaith," medde mam, "yr ydw i wedi sylwi hynny ers tro, a dydw i'n hidio dim am y chwyrnu yma wrth gysgu mewn plant, arwydd ydio fod ene rwbeth yn eu gyddfe nhw." Ar hyn dyma finne yn rhoi ecstra chwyrned, a dyma mam yn dwad ac yn fy nhroi ar fy ochor, o achos tydi neb yn chwyrnu wyddoch, os na fydd o'n gorwedd ar wastad ei gefn. Cyngor da iawn pan fydd rhwfun yn chwyrnu yn arw, ydi clymu brwsh blew caled ar ei gefn o yn ei wely, a'r blew at ei groen o,—pan fydd o'n cysgu ar ei ochor bydd popeth yn iawn, ond cyn gynted ag y try ar ei gefn fe ddeffry, ac yna chewch chi ddim chwyrnu.

Wel, yr ydwi'n crwydro; y diwedd fu, beth bynnag, i mam fynd i'r siop bore drannoeth pan oeddwn i'n yr ysgol, i brynu pethe, a phan ddois i adre y pnawn, roedd ene gacen ardderchog yn fy aros i. Y mae mam yn enwog, wyddoch, am neud dau fath o gacen—cacen gyrens ydi un, a chacen blaen ydi'r llall; ond fedrwn i ddim penderfynu pa un o'r ddau fath oedd hon. Weithie, roeddwn i'n meddwl mai cacen gyrens oedd hi, ond hwyrach mai'r tamed nesaf, y penderfynwn i mai cacen blaen oedd hi. Sut bynnag, er na fedra i ddim deud wrthach chi pa fath gacen oedd hi, yr oedd yn gacen ardderchog er hynny.

Ond wyddoch chi, ddaru mi mo'i mwynhau hi gystal o lawer â'r gacen y llynedd, ac yr ydw i wedi sylwi ers tro nad ydwi ddim yn cael blas ar bethe o gwbwl yrwan fel ystalwm. Dyna'r adeg pan basiais