i Standard V. y llynedd: doeddwn i ddim yn ei fwynhau o cystal a phan basiais i Standard IV. y flwyddyn gynt. Roeddwn i'n methu dallt pam am dipyn, ond wedi meddwl a meddwl uwch ben y peth, yr ydwi wedi dwad i ddallt o'r diwedd, wyddoch chi pam? Lisi Bach sydd wedi marw. Fedrwch chi ddim mwynhau rhwbeth cystal, rywsut, pan na fydd gennoch chi neb arall i'w fwynhau o hefo chi. Rydw i'n cofio pan ddois i o Standard III. i Standard IV., mor falch yr oedd Lisi Bach wrth weld ei brawd mawr Tomi mor glyfar, a phan gefes i fy mhen blwydd dwaetha, roedd y gacen yn well o lawer am fod Lisi efo fi yn ei mwynhau hi, ac yr ydwi'n cofio fel yr aem ni allan efo'n gilydd, ar ôl gorffen, i ryw gornel i ganmol mam yn ddistaw, am ei bod hi mor iawn. Ond yr ydw i wedi gweld erbyn hyn na fedrwch chi fwynhau dim byd yn iawn, os na chewch chi rwfun arall i rannu'r mwynhad hefo chi ac rywsut yrwan, yn lle bod yn ddiwrnod difyr, mae'n gas gen i weld dydd fy mhen blwydd, o achos mae o'n codi hiraeth arna i am Lisi Bach.
Weithie, yr ydw i'n meddwl fy mod i wedi llwyddo i'w hanghofio hi'n lân, ond daw rhwbeth bychan wedyn i godi'r hiraeth yn fwy nag erioed. Rydwi'n cofio mod i yr wsnos cyn y dwaetha yn meddwl mod i'n berffaith hapus, wrth ddwad o'r ysgol, ac wedi llwyddo i anghofio Lisi Bach yn hollol. Ond wrth droi mhen beth weles i ond briallen yn tyfu ar y clawdd, ac wrth edrych arni, mi welwn Lisi Bach o mlaen i efo bwnsh o friallu, yn gwenu'n siriol arna i, ac yn deud, "Tomi, drycha beth sydd gen i." Mi neidies i afael ynddi hi, ond diflannodd, ac mi eis inne i eistedd ar garreg i grio. O! roedd gen i hiraeth am Lisi Bach yr adeg honno. Y mae o'n