beth rhyfedd hefyd, fod peth fel hyn yn digwydd ym mis Mai,—mis y blodau, a'r adar, a'r chwilio am nythod, ac y mae hyd yn oed mis Mai â rhywbeth ynddo fo yrwan yn fy mhigo i.
Fuasech chi'n hoffi gwybod sut un oedd Lisi Bach? Geneth bach â gwallt a llygid duon, duon, duon, oedd hi, a'i chroen yn wyn fel yr eira,—yr eneth bach dlysa welsoch chi rioed; ond y peth amlyca ynddi oedd ei chwerthin hi, roedd hi'n medru chwerthin fel afon yn union. Ac mi ddeuda i chi sut yr ydwi'n gwybod. Y diwrnod o'r blaen yr oeddwn i'n eistedd ar lan yr afon yma yn gwylio'r brithylliaid bach, ac yn gwrando ar sŵn y dŵr, nes anghofio lle roeddwn i. Rydwi'n leicio gwrando sŵn y dŵr mewn afon bach, ac wrth imi ddal i wylio yn y fan honno, mi ddeffris yn sydyn. Roeddwn i'n meddwl mod i wedi clywed Lisi Bach yn chwerthin, ond beth oedd o ond sŵn y dŵr: yr oedd o'r un fath yn union â'i chwerthin hi. Mi stwffies fy nghadach poced i ngheg yn syth, o achos pwy oedd yn dwad ar hyd y llwybyr ond Jac y Foel, a thalai o ddim i Jac eich gweld chi'n crio wyddoch.
Rydwi'n cofio fel yr oeddwn i'n codi Lisi Bach dros y gamfa, ac yn gwthio i'r drain i nôl rhosyn gwrych iddi hi; a doedd dim wrth fy modd i yn debyg i weld gwaed ar fy nwylo ar ôl cael rhosyn gwrych i Lisi, er mwyn iddi feddwl mor ddewr oedd Tomi ei brawd, ond tydi hi ddim gwerth trio bod yn ddewr yrwan, o achos does gennoch chi neb i fod yn ddewr er ei fwyn.
Mynd i hel blodau ddaru ni fis Mai dwactha i Lisi Bach fynd yn sâl. Fe ddaeth yn storm o fellt a thrane arnom ni, nes ein bod ni'n wlyb at ein crwyn. Pan ddaethon ni adre yr oedd mam bron drysu wedi