Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein colli ni,—ar adeg felly y gwelwch chi mam ar ei gore; ond cael annwyd ddaru Lisi Bach, beth bynnag, ac yr oedd hi mor ddrwg drannoeth fel y bu raid nôl y doctor.

Rydwi'n cofio un diwrnod i mam fynd allan i neges i nôl rhwbeth ddeudodd y doctor fod yn rhaid ei gael, ac er ei bod hi wedi deud wrtha i am aros yn llonydd yn y gegin, fedrwn i yn fy myw neud hynny, ac mi gripies yn ddistaw i'r siambar. Pan eis i yno yr oedd Lisi Bach yn cysgu, a fedrech chi ddim deud y gwahaniaeth rhwng ei gwyneb hi a'r gynfas, ond cyn gynted ag yr eis i yno, agorodd ei llygid. "Tomi," medde hi, "tyrd â chusan imi," ac wrth imi roi un iddi, fe syrthiodd deigryn ar ei gwyneb, ond ddeudodd Lisi Bach ddim byd, yr oedd hi'n dallt pethe'n iawn. "Tomi Bach," medde hi, "wyt ti'n cofio—y nyth hwnnw,—ddaru ti ddangos—imi,—fy nyth iydio—yntê Tomi—ac mi fuaswn—yn lecio—ei weld o—a gweld briallen." Cyn gynted ag y daeth mam i'r tŷ, dyma fi allan fel saeth, ac yn f'ôl yn ddigon buan i weld y doctor a mam yn sefyll yn ddifrifol wrth ben y gwely; mi eis heibio iddyn nhw heb iddyn nhw wybod, ac mi roddes bwnsh o friallu yn llaw Lisi Bach. Dyna hithe yn agor ei llygid, ac yn gafael ynddyn nhw, ac yn gwenu arna i, ond dyna ei phen hi a'i llaw hi yn disgyn yn ôl, a'r briallu'n chwalu hyd y gwely; a phob tro y bydda i'n cau fy llygid yn y nos, dyna'r peth cynta ydwi'n weld—Lisi Bach yn gwenu â'i phen ar y gwely, a'i llygid wedi cau, a'r briallu wedi chwalu o'i chwmpas hi.

Mae'r briallu hynny mewn bocs gen i heddiw,does ene neb yn gwybod am danyn nhw. Wrth gwrs, y mae nhw wedi gwywo yn ddim byd bron, ond dyna'r pethe olaf y gafaelodd Lisi Bach ynddyn nhw,