Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ac mi fedrwn i rwan aros i eistedd yn y coed ynghanol gwely o friallu drwy'r dydd. Y mae ene friallu yn tyfu ar ei bedd hi, ac mi fydda i'n meddwl weithie fod Lisi Bach yn gwybod am danyn nhw, ac yn dwad i edrych arnyn nhw pan na fydd neb yn gweld; ond yr ydwi lawer gwaith wedi bod yn gwylio'r fynwent ar fy mhen fy hun am oriau, ond weles i erioed mo Lisi Bach yn dwad i edrych ar y briallu.