Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI.—CADER CERIDWEN

WYDDOCH chi bedi bardd, ac a welsoch chi un rywdro? Wel yn wir y mae o'r peth rhyfedda welsoch chi rioed. Mi chwarddwch nes mynd yn sâl wedi i chi unweth weld un. Y mae ene fardd yn byw yn ein hardal ni, ac yr yden ni'n cael miloedd o hwyl efo fo. Dyn ydi bardd, wyddoch, wedi cael ei daro â'r blaened. Ond hwyrach na wyddoch chi ddim bedi plaened. Fedra i ddim deud wrthach chi beth ydi hi, ond mi fedra ddeud i be y mae hi'n debyg. Yr unig beth heblaw bardd a weles i wedi ei daro â'r blaened oedd llo'r Hafod, a dyna oedd hwnnw yn ei neud wedi iddi hi ei daro,—cerdded yn stiff ac edrych yn hurt, a weles i yn fy oes yr un creadur tebycach iddo na John Williams y Bardd. Rhyw greadur bach eiddil, yn siarad yn fain fel chwisl dun ydio, ac y mae o wedi rhoi ffug enw arno'i hun. Mae gan bob bardd ffug enw wyddoch, a'i ffug enw fo ydi Llew y Foel, ond ein henw ni, y bechgyn, arno fo ydi y Llygoden Lwyd, o achos mae o'n debycach o lawer i lygoden yn gwichian o flaen cath nag i lew rhuadwy yn cerdded o gwmpas yn chwilio am y neb a allo ei lyncu. Rydwi'n meddwl bod ene adnod fel ene yn rhywle. Tydi John Williams ddim yn debyg i lew, beth bynnag.

Dyden ni'r bechgyn ddim yn ei leicio fo am ei fod o'n clepian ar bawb am bopeth a wnawn ni. Dydio ddim yn debyg i fel tase fo erioed wedi bod yn fachgen ei hun. Synnwn i ddim nad wedi disgyn o rywle y mae o rywbryd, cyn co i neb sy'n fyw heddiw. Faddeua i a Wil y Llan byth iddo fo, beth bynnag, am dro gwael wnaeth o hefo ni unweth, a rhaid imi