Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael deud wrthach chi amdano fo, Rydwi'n meddwl mod i wedi deud wrthach chi ein bod ni'n byw ymhell o'r llan, rhyw ddwy filltir mae'n debyg, ac y mae'r siop yng nghanol y llan, fel mai job go anodd ydi cario neges adre, ond bod Wil y Llan yn dwad i fy helpio weithie. Y mae ene grydd yn byw yn y llan o'r enw Edward Evans, â mules ganddo, a llawer gwaith yr ydw i wedi cael reiden ar gefn y fules yma. Ond am ddigwyddiad arall yr ydw i am sôn wrthach chi heddiw. Wedi imi ddwad o'r ysgol un diwrnod, dyma mam yn fy ngalw i ati. "Tomi Bach," medde hi, "dos, machgen i, i'r siop i nôl hanner sached o flawd, ac rydw i'n siŵr os gofynni di i Edward Evans am fenthyg y fules, y cei di hi i'w gario fo adre. A gofala di ddeud' "os gwelwch chi'n dda Edward Evans,' a 'thenciw,' wrth ei chael hi."

Wrth gwrs, doedd dim eisio deud ddwywaith wrtha i, a ffwrdd â fi heibio i Wil y Llan. "Wil," medde fi, "tyrd am dipyn o hwyl"; ac i ffwrdd â ni at Edward Evans. "Mae mam yn gofyn os gwelwch chi'n dda Edward Evans," medde fi, "gaiff hi fenthyg y fules i nôl blawd, ac mae hi'n deud "'thenciw' am ei benthyg." "Caiff neno diar," medde Edward Evans, ac i ffwrdd â fo i'r stabal i'w nhôl hi. Wedi ei chael, dyna Wil a fi yn gafael yn suful yn ei phen rhag iddi redeg i ffwrdd. Yr oedd Edward Evans yn falch o'n gweld yn credu bod tipyn o ysbryd yn y fules, er ei bod, a deud wrthach chi yn ddistaw, yn ddeg ar hugien oed, medde mam; a dyna pam yr oedd mam yn medru fy nhrystio i efo hi. Wedi mynd o olwg tŷ Edward Evans, yn lle mynd i'r siop, i b'le'r aethon ni ond i ffordd y mynydd.

Ffordd unig ydi ffordd y mynydd wyddoch, ac roedden ni wedi penderfynu gneud y gore o'r hen