Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fules cyn mynd i'r siop, a dyna lle roedden ni ein dau ar ei chefn yn mynd nerth carne, cyn gynted ag y medre ei charne symud, wrth gwrs. Yr oedd hi braidd yn oer ar ei chefn, a dyna ddadl rhwng Wil a fi. Roeddwn i'n deud mai mynd mor ara deg yr oedd y fules nes ein bod ni'n rhewi ar ei chefn, a Wil yn deud ei bod hi'n mynd mor ffast nes torri'r gwynt. Wrth inni fynd felly mi ddarun basio Cader Ceridwen. Darn o hen bren ydi Cader Ceridwen ynghanol y mynydd unig, lle mae John Williams y bardd yn mynd i eistedd pan fynnoch chi i gyfri ei fysedd a mwmian; a phwy welen ni yn eistedd ar Gader Ceridwen ond fo,—er mwyn i chi ddallt, John Williams roddodd yr enw ene ar yr hen foncyff pren. Cyn gynted ag y gwelodd o ni mae o'n cadw ei fysedd yn ei boced, ac yn codi a mynd i ffwrdd, a ninne yn ein blaene heb gymryd arnom sylwi arno, er ein bod arfer a'i herian pan fydden ni yno heb y fules.

Mynd yn ein blaene dan ddadlu ddaru ni, beth bynnag, ond yn hollol sydyn dyma'r fules yn stopio, ac yn codi ei thraed ôl nes fy mod i, oedd yn eistedd yn sgîl Wil y Llan, yn disgyn ar wastad fy nghefn ar lawr, ac mi drewais asgwrn fy mhen nes fy mod i yn synnu. Y peth cyntaf weles i ar ôl syrthio oedd yr haul yn dechre dwad ata i gymint fyth, ac yna mi ddechreuais weld y caeau yn troi o nghwmpas, yna mi glywn ryw fand yn dechre chware yn rhywle, ac wedi i'r band stopio mi aeth yn nos arna i, a'r peth cynta glywn i wedyn oedd Wil y Llan uwch fy mhen yn gofyn oeddwn i wedi brifo. Mi neidies ar fy nhraed, a doeddwn i ddim gwaeth, ond bod tipyn o waed ar fy mhen, a ffwrdd â ni ar gefn y fules ac i'r siop rhag digwydd inni rywbeth a fyddai gwaeth.

{{nop}]