am glepian. Amser cneifio a phitshio defed oedd hi, a dyma Wil yn cymryd tipyn o bitsh o'r tŷ ar ôl dwad o'r ysgol, a ffwrdd â ni i'r mynydd at Gader Ceridwen, a beth welen ni ond mules Edward Evans yn pori heb fod ymhell i ffwrdd. Dyma roi côt dew of bitsh ar Gader Ceridwen, a chydig o ddail drosto i'w guddio, o achos roedden ni'n gwybod ei bod hi agos yn amser i John Williams ddwad yno i gyfri ei fysedd; a chyn gynted ag y gorffennodd Wil, ac i ni ein dau fynd i guddio i'r grug, gwelem o'n dwad, ac yn mynd ac yn eistedd ar y Gader, ac yn dechre cyfri ei fysedd unweth yn rhagor.
Pan oedden ni'n meddwl bod y pitsh wedi cledu dyma ni i fyny, ac at y fules, ac yn ei dal hi, ac yn mynd â hi i ymyl John Williams. Yr oedd Wil y Llan wedi dysgu'r tric ers tro i fedru gneud i'r fules nadu pan fynnai o. Wedi mynd ato, dyma Wil yn gofyn iddo fo, "John Williams," medde Wil, "be ydech chi'n ei neud yma heddiw?" "Barddoni, machgen i," medde John Williams. "Mi feder y fules yma farddoni hefyd," medde Wil. "Fachgen,' medde John Williams, "paid â diystyru'r ddwyfol gelf, neu daw barn Ceridwen ar ein pennau ni i gyd." "Gwrandewch chi ynte," medde Wil, a dyma fo'n gneud rhwbeth i'r fules na ddeuda i chi ddim be, a dyma hithe'n dechre nadu, a dyma John Williams yn gweiddi am iddo fo fynd â hi i ffwrdd. "Byddwch yn ddistaw ddyn," medde Wil wrtho fo'n ddifrifol iawn, "dydio ddim yn beth iach i styrbio mules pan fydd hi ar ganol barddoni." Pan ddeudodd Wil hynny dyma John Williams yn trio codi mewn dirmyg i fynd i ffwrdd, ond fedre fo ddim symud, a dyma fo'n dechre gweiddi, "Ow, ow," medde fo, "mae barn Ceridwen wedi dwad, ac wedi fy swyno