Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII.—NYMBAR 4.

DYMA fi ar ddiwedd dydd Llun y Sulgwyn yn ysgrifennu atoch chi o'r siambar, am na fedra i ddim cysgu o achos bod fy nghydwybod i yn fy mrifo gymint. Rydwi wedi bod yn fachgen drwg heddiw. Dydw i ddim wedi deud anwiredd chwaith, nac anufuddhau. Y cwbwl a wnes i oedd gneud tipyn o fistêc; a phob tro y bydda i wedi nghael fy hun i deimlo'n bur gyfforddus, y mae nghydwybod i yn fy mhigo, ac yn deud wrthai fod mam yn siŵr o ffeindio'r mistêc, ac yna—wel mae nychymyg i'n ffeintio fel Lisi'r Hafod adeg consart pan feddylia i am y peth.

Mi ddeuda wrthach chi yrwan sut y bu hi arnai. "Tomi bach," medde mam heddiw'r bore, "tyrd yma machgen i; mae gen i eisio iti redeg i neges drosta i. Dos i dŷ Robert Jones, i Dan y Graig, i ofyn oes ganddo fo foch bach; ac os oes, gofyn iddo fo feder o recomendio un imi." Cyn gynted ag y deudodd mam hyn roeddwn i'n barod i gychwyn, o achos does dim ond un peth yn fy mhlesio i'n fwy na chael mochyn newydd gartre, ac am y peth hwnnw yr ydw i am sôn yn union. "Brysia, machgen i," medde mam, "o achos mae dy dad gartre heddiw a fory, ac mi geiff ei nôl o heno, a'i begio yn y bore."

Doedd yr un bachgen yn y wlad parotach na Thomi i ufuddhau y bore yma, o achos welsoch chi rioed waith mwy difyr na nhad yn pegio mochyn. Y peth cynta mae nhad yn ei neud ydi troi y mochyn ar ei gefn, ac eistedd arno fo. Mae mam yn gafael yn ei ddau droed ôl rhag iddo fo gicio, a finne'n gafael yn ei draed blaen; neu os bydd Wil y Llan yn