ymyl, y mae un ohonon ni yn gafael ymhob troed, ac y mae nhad yn gafael yn ei geg ag un llaw, ac yn rhoi bach yn ei drwyn efo'r llaw arall, ac mae'n rhaid ichi fod yn bur ofalus rhag ei fygu, wrth gau ei geg. Wedi gorffen y job, yr yden ni'n gollwng y mochyn reit sydyn, ac yn chwalu. Y mae ynte'n rhoi un chwythed ofnadwy, fel darn o daran, ac yn rhedeg rownd yr ardd deirgwaith heb stopio, ac yna dwad yn ei ôl bron methu symud, i nôl bwyd. Ac mae o'n beth rhyfedd, weles i rioed fochyn yn rhedeg mwy na theirgwaith rownd yr ardd heb stopio, ac am wn i, na weles i rioed fochyn yn rhedeg llai na theirgwaith rownd heb stopio chwaith.
Wel, ichi, i ffwrdd â fi, gan feddwl y cawn i ddydd Llun Sulgwyn difyr iawn yn mynd efo nhad i nôl mochyn. Ac os oes gennoch chi fel plant eisio bod yngolwg pawb, ac yn destun siarad, mae gen gyngor ichi, ewch hefo'ch tad pan fydd o'n mynd i nôl mochyn newydd. Does ene neb nad ydio yn y drws yn sôn amdanoch chi wrth bobol y drws nesa, ar ôl ichi basio, o achos fydde hi ddim gwerth iddo drio sôn amdanoch chi pan fyddech chi yn pasio,—mi fydde'r mochyn yn gweiddi gormod. Ffwrdd â fi, beth bynnag, i dŷ Robert Jones, ond wrth fynd mi glywn sŵn band, a buwch yr hafod yn rhedeg i fyny ac i lawr y cae gymint fyth, wedi rhoi cwlwm ar ei chynffon; ac yn y cae arall, roedd ceffyl yr Hafod yn trio dawnsio ar ei draed ôl, a rhedeg yn ôl a blaen bob yn ail. Roedd peth fel hyn yn ormod i mi; a ffwrdd â fi fel mellten, a beth welwn i ond band y Llan. Band newydd wedi codi y flwyddyn dwaetha ydi band y Llan, ac mae pobol yn cael hwyl am ei ben o gan ddeud mai un gân feder o, ac na feder o