Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mo honno'n iawn. Ond yn wir roeddwn i'n meddwl ei fod o'n canu'n ardderchog.

Deud roeddwn i fod band y Llan yn dwad dan ganu mewn dillad crand, a William y Saer yn ei arwain o. Ar ei ôl roedd ene lot o ddynion yn cerdded bob yn ddau mewn rubane, ac yn edrych yn ddifrifol iawn i gyd, fel tase nhw eisio bod efo'u gwaith, ac yn ofni dwyno eu rubane. O gwmpas y band roedd plant yr holl wlad yn trotian, ac ymhob cae yr oedd ene wartheg a chyffyle, yn rhedeg efo'r band, ac yn dawnsio, cyn belled ag yr oedd y gwrychoedd yn caniatáu. Clwb y King's Head oedd yn cerdded. Wel yn wir, roeddwn i wedi glynu wrth y ddaear. Pwy welwn i ynghanol y plant ond Wil y Llan a Jac y Foel. "Lle rwyt ti'n mynd, Tomi?" medde Wil; ond doeddwn i ddim yn cofio ar wyneb y ddaear i b'le roeddwn i wedi cychwyn. Roedd sŵn y band yn y nghlustie i wedi boddi sŵn y mochyn yn fy nychymyg i. Ac i ffwrdd â mi efo'r plant a'r band.

Yn y man mi stopiodd y band ganu, bob un, ond un, roedd y drymar yn dal i ddrymio i gadw step o hyd; ac mi welwn mai fo oedd y pwysica o honyn nhw gan mai fo oedd yn eu dysgu nhw sut i gerdded, ac mi benderfynes mai drymar fydda i ar ôl tyfu'n fawr. Wedi mynd dipyn, dyma fynd o flaen y King's Head, a'r bandars yn cael glasied am ei bod hi mor boeth, ac yn paratoi i ganu wedyn. Dyma Wil y Llan, a fi, a Jac y Foel, yno i ddal eu cardie nhw. Peth iawn ydi dal cerdyn i fandar. "Prun gawn ni ganu rwan?" medde'r arweinydd yn y man. "O! Nymbar 4," medde pawb, a dyma ddechre canu Nymbar 4. Yr oedd hi yn ardderchog, ac rydwi'n credu mai mandar i oedd y chwythwr gore,