o achos roedd o'n deud mod i'n dal y cerdyn iddo fo i'r dim. Ond roedd ene beth rhyfedd yn digwydd tua'r diwedd. Roedd yr arweinydd yn codi ar flaene'i draed yn sydyn, yn cochi yn ei wyneb, yn ysgwyd ei ddwylo yn ffast ac yn gweiddi, "Cleimacs," a chyn gynted ag y deude fo'r gair, roedd pawb yn rhoi un chwythad mawr, nes bod eu bochau nhw bron bostio, ac yna'n stopio. Roeddwn i'n leicio'r "cleimacs" yma yn well na dim. Wedi iddyn nhw orffwys tipyn, a chael glasied arall, dyma nhw'n paratoi i ganu wedyn. "Prun gawn ni ganu rwan?" medde William y Saer. "Nymbar 4," medde pawb; ac roeddwn i'n bur falch, o achos yr oeddwn i'n leicio Nymbar 4 yn ardderchog. Ar ôl iddyn nhw chware tipyn, dyma William yn neidio i fyny'n sydyn, "Cleimacs," medde fo wedyn, a dyma'r chwythu bron bostio yma'n digwydd drachefn, a phawb yn stopio. Bochau mawr cochion sydd gan Jac y Foel, wyddoch; ac y mae Wil y Llan a finne wedi dechre ei alw fo'n "Cleimacs" yn barod.
Ond waeth i chi heb fynd i weld clwb yn cerdded heb bres, a doedd gen inne ddim. Fel roedd pethe'n bod, roedd ene rwfun eisio dal pen ceffyl ar ôl inni fynd at ystafell y cinio, ac mi ges ddwy geiniog ganddo fo am neud. Wel, y peth nesa oedd gwybod beth i brynu. Dyma ni i gyd at stondin Siân y Fferins Duon. Ar ei stondin hi roedd ene ddau beth reit da,—niclas bôl, a thoffi efarlasting. Dyma Jac y Foel yn dwad ata i, ac yn deud wrtha i ei fod o wedi gwario'i geiniog am doffi efarlasting, a'i fod o'n ardderchog. Dyma finne'n prynu cnegwarth yn syth, a'r gamp efo hwnnw, fel y gwyddoch chi, ydi am y gore i neud rhaffe ohono fo. Rydech chi'n rhoi un pen yn y'ch ceg, ac yn tynnu a thynnu, nes ei