Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod o'n mynd yn llathenni. Gan nad oedd gan Jac y Foel geiniog, mi adewais iddo fo gymryd gafael yn y pen arall efo'i ddannedd, a dyna lle roedden ni'n bacio'n ôl nes ein bod ni lathenni oddi wrth ein gilydd, ac roedden ni wedi trefnu, pan dorrai o, fod Jac i gael y darn ddisgynnai i'w ochor o. Ond fel roedd y gwaetha, mi brathes i o'n rhy dyn rywsut, ac mi dorrodd yn ymyl fy nannedd i; wedi'r cwbwl, bargen ydi bargen, ac mi gafodd Jac y toffi efarlasting. Roedd yno beth arall hefyd, i ddeud ffortiwn, ond i chi roi ceiniog yn y twll, a doedd dim i'w neud ond trio hwnnw. Dyma fi'n rhoi'r geiniog i mewn, a dyma'r ffortiwn allan. Y peth oedd arno fo oedd nad awn i byth yn gyfoethog, mai mheryg i oedd bod yn rhy ffri efo mhres; ac yr oedd yn deud y gwir hefyd, mae gen i ofn.

Wedi imi wario'r cwbwl, be feddyliech chi wnaeth Jac y Foel,—tynnu darn tair allan oedd o wedi gadw, medde fo, i fynd i weld y sports, y neidio, a'r rasus mulod, y rhedeg mewn sache, a'r ymladd; a chan mai un fedre fynd i mewn efo'r darn tair, roedd yn ddrwg ganddo fo, medde fo, na fedre fo ddim rhannu efo mi, fel y rhennais i'r toffi efarlasting efo fo. Dyna oedd yn od bob amser efo Jac, roedd o'n meddwl am rwbeth i'w neud efo'i bres na fydde dim posib iddo ei rannu efo bechgyn erill. Mi ges ogle'r cinio, roedd hwnnw'n ardderchog, heb sôn am y cinio ei hun. Mi gafodd Wil y Llan, a fi, olwg bur dda ar y sports hefyd, o ben rhyw hen bren; ond mi rwyges i nhrowsus wrth ddwad i lawr, ac am hynny does dim byd melys mewn atgofio'r sports i mi. Wn i ddim bedi'r mater, ond anamal iawn ar ddiwedd rhyw ddiwrnod fel hyn y bydda i'n llawenhau wrth feddwl am y dyfodol, ac y mae'r scŵl yn