Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deud bob amser yn yr ysgol mai'r dyfodol ydi popeth i blant.

Pan oeddwn i'n chwilio am binnau i geisio ngosod fy hun wrth ei gilydd, mi clywn nhw yn cyhoeddi cystadleuaeth dringo i ben y pren sebon meddal, a dyma Wil y Llan a fi, ar ôl i mi dacluso tipyn arnaf fy hun, yn sleifio at giât y cae. Shôn y Graig oedd yn sefyll wrth y giât yn derbyn pres. Dydi neb bron yn ei nabod o ond fel Shôn y Graig. John Roberts ydi ei enw fo, ond y mae o'n cael ei enw mor anamal fel y mae o bron wedi ei anghofio fo ei hun, ond mi gewch rwbeth leiciwch chi ganddo fo os galwch chi o yn John Roberts. Yr oeddwn i wedi meddwl am y cynllun i gael trosto fo, ac mi eis i a Wil ato. "John Roberts," medde fi, "a welsoch chi nhad yn dwad i'r cae yma; dydw i ddim wedi ei weld o ers meitin?"—yr hyn oedd reit wir, ond mi wyddwn nad oedd fawr o beryg imi ei ffeindio yno chwaith, o achos dydi nhad ddim am bethe felly. "Naddo, weles i mono fo," medde Shôn, "a fuaset ti'n leicio mynd i mewn i edrych amdano fo?" "Buaswn," medde fi, "geiff Wil y Llan ddwad efo fi, dydio ddim yn leicio bod yn y crowd yma ei hun?" "Ceiff debyg iawn," medde Shôn, ac i ffwrdd â ni i mewn. Cyn gynted ag yr aethon ni i mewn, mi ddarun redeg at y pren sebon meddal, a dyna lle roedd Dic y Felin ar hanner y ffordd i fyny, ac yn gafael ynddo fo â'i ddannedd. Gellwch feddwl bod Wil a fi'n gynhyrfus, a dyma fi'n gofyn i rwfun, "Bedi'r wobr?" medde fi. "Mochyn bychan," medde hwnnw, ac mi fflaties yn syth. Yr adeg honno y cofies i fy neges, ac yr oedd hi'n rhy hwyr i'w chofio hi yrwan, ond mi gwnaeth fi na fedrwn i ddim fy mwynhau fy hun ddim mwy. "Wil," medde fi, "dydw i ddim yn teimlo'n dda,